Daeth cadarnhad fod Matthew Maynard wedi cael ei benodi’n barhaol i swydd prif hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg.
Fe fu wrth y llyw dros dro y tymor diwethaf ar ôl i’r clwb ddiswyddo Robert Croft yn dilyn adolygiad allanol, a arweiniodd at benodi Mark Wallace yn Gyfarwyddwr Criced.
Mae wedi llofnodi cytundeb tair blynedd, a fydd yn ei gadw gyda’r sir tan o leiaf ddiwedd tymor 2022, ac mae’n dychwelyd i’r swydd oedd ganddo fe rhwng 2008 a 2010.
Fe gafodd ei benodi’n ymgynghorydd batio wrth ddychwelyd i’r sir o dan Robert Croft yn 2017, ond fe gafodd e’r brif swydd dros dro ar ddechrau’r flwyddyn.
Fe fu bron i Forgannwg ennill dyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor.
Profiad helaeth
Y tu hwnt i Forgannwg, fe fu’n brif hyfforddwr ar dîm y Titans yn Ne Affrica, gan ennill y gystadleuaeth ugain pelawd a’r bencampwriaeth yn ei dymor cyntaf.
Aeth o’r fan honno i Wlad yr Haf yn Gyfarwyddwr Criced. Cafodd e flas ar griced rhyngwladol gyda thîm Lloegr o dan Duncan Fletcher, wrth iddyn nhw ennill cyfres y Lludw yn 2005.
Fel chwaraewr, sgoriodd e dros 24,000 o rediadau dosbarth cyntaf i Forgannwg, gan gynnwys 54 canred, gan arwain y sir i Bencampwriaeth y Siroedd yn 1997. Roedd e hefyd yn chwaraewr allweddol wrth i Forgannwg ennill tlws y gynghrair undydd yn
1993, 2002 a 2004.
Chwaraeodd e 18 o weithiau dros Loegr – pedair gêm brawf ac 14 gêm undydd, rhwng 1988 a 2000.
‘Parhau ar y daith i fyny’
“Dw i wedi cyffroi o gael parhau â’r gwaith ddechreuon ni arno fe eleni,” meddai Matthew Maynard.
“Dw i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r clwb hwn ac wedi mwynhau gweithio gyda’r chwaraewyr a’r staff hyfforddi drwy gydol y tymor.
“Mae tipyn o dalent o fewn y garfan ac mae gyda ni gymysgedd da o chwaraewyr ifainc a phennau profiadol.
“Fe welson ni welliant mawr ym Mhencampwriaeth y Siroedd a Chwpan Undydd Royal London ond mae’n bwysig ein bod ni’n parhau ar y daith i fyny a mynd â’n perfformiadau i mewn i’r Vitality Blast [y gystadleuaeth ugain pelawd] y tymor nesaf.”
‘Wrth ein boddau’
“Rydym wrth ein boddau o fod wedi penodi Matt yn brif hyfforddwr parhaol,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Ar ôl cynnal adolygiad trylwyr o’r tymor gyda’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff, fe ddaeth yn amlwg y dylai Matt gael parhau yn ei swydd yn brif hyfforddwr.
“Fe ddangosodd y tîm gryn dipyn o welliant dros ddau allan o dri fformat o dan ei arweiniad, gan ddod yn agos iawn i ennill dyrchafiad ym Mhencampwriaeth y Siroedd.
“Mae Matt yn brif hyfforddwr profiadol dros ben sydd wedi datblygu ei sgiliau o amgylch y byd ac mae ganddo fe gryn wybodaeth am y clwb a’n strwythur.
“Mae e wedi magu perthynas dda gyda’r chwaraewyr ers dychwelyd, ac wedi eu helpu i wella’u gêm a’u meddylfryd yn unigol.
“Mae cadw Matt yn newyddion gwych i’r clwb ac edrychwn ymlaen at ei weld yn parhau â’i waith rhagorol gyda Morgannwg dros y blynyddoedd i ddod.”