Mae Morgannwg wedi ennill eu gêm Bencampwriaeth olaf ar eu tomen eu hunain, wrth fowlio Swydd Gaerlŷr allan am 132, a’u curo nhw o 291 o rediadau.
Mae’n golygu bod ganddyn nhw lygedyn o obaith o hyd o ennill dyrchafiad, ar ôl i ambell ganlyniad arall fynd o’u plaid dros y dyddiau diwethaf.
Ond gobeithion tila ydyn nhw o hyd, wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r gêm olaf oddi cartref yn Durham yn bedwerydd yn y tabl, gyda thair sir yn unig yn gallu cael dyrchafiad.
Manylion y diwrnod olaf
Ar ôl dechrau’r diwrnod olaf ar 33 am ddwy, buan y collodd Swydd Gaerlŷr eu trydedd wiced, pan darodd Michael Hogan goes Hassan Azad o flaen y wiced am 16, a’r sgôr yn 40 am dair.
Ac roedden nhw’n 44 am bedair pan gafodd George Rhodes ei fowlio gan Michael Hogan am bedwar.
Ceisiodd Harry Dearden a Mark Cosgrove, cyn-fatiwr Morgannwg, sefydlogi’r batiad erbyn amser cinio, ond roedd Mark Cosgrove yn edrych yn arbennig o anghyfforddus yn erbyn y bowliwr cyflym llaw chwith, Graham Wagg.
Ei bartner gollodd ei wiced gyntaf, serch hynny, wrth i Andrew Salter daro’i goes o flaen y wiced am 37, a’r sgôr erbyn amser cinio’n 101 am bump.
Collodd yr ymwelwyr eu chwech wiced toc ar ôl cinio pan gafodd Harry Swindells ei ddal gan David Lloyd yn y slip oddi ar fowlio Samit Patel am ddau.
Roedden nhw’n 110 am saith pan gafodd Mark Cosgrove ei redeg allan am 28 gan Billy Root yn maesu’n agos, wrth iddo gamu i lawr y llain cyn mentro rhediad amhosib.
Collon nhw’r ddwy wiced nesaf mewn dwy belen oddi ar fowlio Andrew Salter, pan gafodd Chris Wright ei ddal gan David Lloyd yn y slip am chwech a Will Davis ei ddal yn yr ochr agored gan Michael Hogan.
Daeth y gêm i ben pan gafodd Gavin Griffiths ei ddal yn y slip oddi ar fowlio Samit Patel am un, a’r ymwelwyr i gyd allan am 132.
Collon nhw eu pum wiced olaf am 31 o rediadau.
Gweddill y gêm
Fe fyddai’r ymwelwyr wedi difaru gofyn i Forgannwg fatio, wrth iddyn nhw sgorio 435 yn eu batiad cyntaf, diolch yn bennaf i 96 gan Chris Cooke.
Ond partneriaethau hefyd oedd y gyfrinach i’r cyfanswm hwnnw, gyda chwech ohonyn nhw’n fwy na hanner cant, wrth i David Lloyd a Samit Patel sgorio 66 yr un.
Cafodd Swydd Gaerlŷr eu bowlio allan am 263, gyda dim ond Chris Wright (60) yn llwyddo i gyrraedd hanner cant, wrth i’r troellwr llaw chwith Samit Patel gipio pedair wiced am 58, a Ruaidhri Smith yn cipio tair am 43.
Gyda blaenoriaeth o 172, roedd disgwyl y byddai Morgannwg yn gorfodi’r gwrthwynebwyr i ganlyn ymlaen, ond wnaethon nhw ddim, gan sgorio 251 am bump cyn cau eu hail fatiad, gyda Kraigg Brathwaite yn sgorio 103 heb fod allan wrth gario’i fat.
Roedd yn golygu bod gan y Saeson nod o 424 o rediadau i ennill, oedd yn edrych yn annhebygol o’r dechrau’n deg ar ôl colli’r capten Paul Horton a Colin Ackermann yn hwyr ar y trydydd diwrnod i’w gadael nhw mewn trafferthion.