Mae tîm criced Morgannwg yn croesawu Swydd Gaerlŷr i Erddi Sophia yng Nghaerdydd heddiw (dydd Llun, Medi 16), gan wybod fod rhaid iddyn nhw ennill y gêm Bencampwriaeth i gadw eu gobeithion o ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf yn fyw.
Maen nhw wedi gostwng i’r chweched safle yn y tabl, gyda dim ond tair sir yn cael codi ar ddiwedd y tymor.
Mae bwlch o 20 pwynt rhyngddyn nhw a Swydd Gaerloyw, sy’n drydydd ar hyn o bryd, a 25 pwynt rhyngddyn nhw a Swydd Northampton yn yr ail safle.
Mae angen pwyntiau llawn ar Forgannwg yn eu dwy gêm olaf er mwyn cadw eu gobeithion yn fyw.
Byddan nhw’n gorffen y tymor oddi cartref yn Durham mewn gêm a allai benderfynu a fyddan nhw’n codi i’r adran gyntaf neu’n aros yn yr ail adran am dymor arall.
Mae’r troellwr Andrew Salter yn dychwelyd i’r garfan am y tro cyntaf ers y golled yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Llandrillo yn Rhos – canlyniad a ddechreuodd rediad o dair colled yn olynol yn y Bencampwriaeth.
Mae Timm van der Gugten hefyd wedi’i gynnwys ar ôl cipio pum wiced yn y gêm yng Nghaerwrangon wrth ddychwelyd ar ôl anaf.
Gemau’r gorffennol
Morgannwg oedd yn fuddugol y tro diwethaf iddyn nhw gwrdd yng Nghaerdydd, a hynny o 132 o rediadau wrth i’r sir Gymreig ennill am y tro cyntaf mewn 16 o gemau yn y Bencampwriaeth.
Y Saeson oedd yn fuddugol yn 2016, a hynny am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ers 2001.
Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), N Selman, K Brathwaite, D Lloyd, S Patel, B Root, G Wagg, A Salter, R Smith L Carey, M Hogan
Carfan Swydd Gaerlŷr: P Horton (capten), H Azad, C Ackermann, M Cosgrove, G Rhodes, H Dearden, H Swindells, B Mike, G Griffiths, C Wright, W Davis