Mae Morgannwg wedi colli o 155 o rediadau o fewn tri diwrnod o’u gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerwrangon, gyda’u gobeithion o ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf yn pylu.

Wrth gwrso 312 i ennill ar ôl bowlio’r tîm cartref allan am 299 yn eu hail fatiad, cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 156 ar ôl colli wicedi’n rhy gyson.

Cwympodd 18 wiced ar y diwrnod olaf, a dyma’r trydydd tro iddyn nhw golli’n olynol, a phob un ohonyn nhw’n golledion sylweddol.

Hon hefyd yw buddugoliaeth gyntaf Swydd Gaerwrangon ers deg gêm.

Manylion

Collodd Swydd Gaerwrangon wiced gynnar pan darodd y troellwr llaw chwith Samit Patel goes Jack Haynes o flaen y wiced am 31, gan ddod â phartneriaeth o 69 gyda Daryl Mitchell i ben.

Roedden nhw’n 190 am bedair pan gafodd Alex Milton, cyn-gapten tîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC, ei dwyllo gan Samit Patel wrth i’r bêl droi’n sylweddol a llamu’n annisgwyl cyn cyrraedd y wicedwr am ddaliad.

Ychwanegodd Rikki Wessels 44 gyda Daryl Mitchell cyn i Michael Hogan daro’i goes o flaen y wiced am 32, a’r sgôr yn 234 am bump.

Roedden nhw’n 248 am chwech pan wnaeth Timm van der Gugten ddarganfod ymyl bat Ben Cox i roi daliad i Chris Cooke heb ei fod e wedi sgorio.

Cyrhaeddodd Daryl Mitchell ei ganred, rhif 37 ei yrfa dosbarth cyntaf a rhif 36 i’r sir, oddi ar 243 o belenni yn ei 200fed gêm dosbarth cyntaf i’r sir, wrth i’r tîm cartref gyrraedd amser cinio yn 262 am chwech.

Sesiwn y prynhawn

Chwarter awr ar ôl dechrau sesiwn y prynhawn, cipiodd Timm van der Gugten wiced Ed Barnard wrth ei ddal oddi ar ei fowlio’i hun am chwech, a’r sgôr yn 281 am saith.

Roedden nhw’n 291 am wyth pan dynnodd Joe Leach at yr eilydd Graham Wagg ar ochr y goes oddi ar fowlio Timm van der Gugten am bedwar.

Cafodd Charlie Morris ei fowlio gan Samit Patel am un pan geisiodd e dorri’r bêl, a’r sgôr yn 298 am naw.

Daeth y batiad i ben pan gafodd Daryl Mitchell ei redeg allan yn dilyn dryswch gydag Adam Finch, ac fe dorrodd Timm van der Gugten y wiced i ddod â’r batiad i ben ar 299.

Roedd y batiwr wedi bod wrth y llain am chwech awr ac wedi wynebu 282 o belenni, gan daro 17 pedwar.

Morgannwg yn cwrso – ond yn chwalu

Wrth gwrso 312 i ennill, collodd Morgannwg eu wiced gyntaf oddi ar ail belen y batiad, pan gafodd Nick Selman ei ddal gan Daryl Mitchell yn y slip oddi ar fowlio Joe Leach.

Cafodd Kraigg Brathwaite ei redeg allan heb symud ymhell o’r llain, wrth i Tom Cullen ddod i’r pen arall, a Morgannwg yn ddi-sgôr ar ôl colli dwy wiced.

Roedden nhw’n 20 am dair pan gafodd Tom Cullen ei fowlio gan Joe Leach am bump, ac yn 44 am bedair ar ôl 12 pelawd pan gafodd David Lloyd ei fowlio ar y ffon goes gan Ed Barnard am 29.

Cipiodd Ed Barnard ail wiced yn ei belawd ganlynol, wrth daro coes Samit Patel o flaen y wiced am saith, a’r sgôr yn 54 am bump.

Ychwanegodd Billy Root a’r capten Chris Cooke 44 am y chweched wiced cyn i Billy Root gael ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored gan Ed Barnard oddi ar fowlio Charlie Morris am 26, a’r sgôr yn 98 am chwech.

Dwy belen yn ddiweddarach, tarodd y bowliwr goes Ruaidhri Smith o flaen y wiced am bedwar, a’r sgôr yn 102 am saith.

Cwympodd yr wythfed wiced ar 128 pan dynnodd Timm van der Gugten at Moeen Ali oddi ar fowlio Adam Finch am 13, a chafodd Chris Cooke ei fowlio gan Moeen Ali am 45 i adael Morgannwg yn 139 am naw.

Cafodd Lukas Carey ei ddal gan Ed Barnard yn tynnu i ochr y goes oddi ar fowlio Moeen Ali am 12, a Morgannwg i gyd allan am 156.

Gweddill y gêm

Dechreuodd Morgannwg yn gryf wrth fowlio Swydd Gaerwrangon allan am 205 yn eu batiad cyntaf, ond roedden nhw 12 rhediad ar ei hôl hi ar ddiwedd eu batiad cyntaf eu hunain wrth gael eu bowlio allan am 193.

Sgoriodd Daryl Mitchell 139 yn yr ail fatiad i osod nod o 312 i Forgannwg, ond doedden nhw ddim wedi edrych yn agos at gyrraedd y nod ers colli’r ddwy wiced gyntaf heb sgorio ar ddechrau’r batiad.

Maen nhw’n croesawu Swydd Gaerlŷr i Gaerdydd yr wythnos nesaf, cyn gorffen y tymor yn Durham. Ond mae eu gobeithion o ennill dyrchafiad yn pylu ar ôl gostwng i’r pumed safle, gyda dim ond tri thîm yn codi o’r ail adran.