Mae Peter Hybart, prif weithredwr Criced Cymru, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd ar ddiwedd y flwyddyn.
Fe fu yn y swydd ers dros ddegawd, ac fe gyflwynodd ei fwriad i adael yn ystod cyfarfod o’r bwrdd ddechrau’r wythnos.
Mae’n dweud y bydd ei ymadawiad yn gwneud lles iddo fe a’r corff sy’n gyfrifol am griced ar bob lefel yng Nghymru, o’r gêm ar lawr gwlad i griced proffesiynol.
Bydd Criced Cymru’n chwilio am brif weithredwr newydd ar unwaith.
‘Newid arweinydd’
“Erbyn diwedd y flwyddyn, bydda i wedi arwain Criced Cymru yn weithredol ers dros ddeng mlynedd, a dw i’n credu bod yr amseru’n briodol ar gyfer y sefydliad ac i fi’n bersonol, i gael newid arweinydd,” meddai mewn datganiad.
Mae’n dweud y bydd mentrau strategol Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) a Chwaraeon Cymru’n cynnig cyfleoedd newydd i dyfu’r gêm yng Nghymru ac yn cynnig “arweiniad, hwb ac egni newydd er mwyn symud criced yng Nghymru i’r lefel nesaf”.
“Bu’n fraint cael arwain Criced Cymru a gweld drosof fy hun, yn agos iawn, y lefel anhygoel o ymrwymiad ac arbenigedd sydd o fewn pob rhan o’r gêm o du ein gwirfoddolwyr a’n staff proffesiynol,” meddai wedyn.
“Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ac mae’n bryd i’m holynydd wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a fydd ar gael dros y blynyddoedd nesaf.
“O’m rhan i, rwy’n bwriadu cael ail wynt, cyfle i feddwl a threulio mwy o amser ar ddiddordebau eraill cyn ystyried y cam nesaf yn fy ngyrfa.”
‘Camau breision’
“Mae Criced Cymru wedi cymryd camau breision yn ystod cyfnod Peter yn brif weithredwr,” meddai Rod Jones, cadeirydd y bwrdd.
“Mae ein cynnydd o ran llywodraethiant, strwythur y sefydliad a gwarchod yn cael ei barchu’n fawr ar draws y rhwydwaith criced, tra bod ein perfformiad o ran cymryd rhan yng nghynllun All Stars Cricket a gêm y merched a menywod ymhlith y tri gorau yng Nghymru a Lloegr.
“Ar y lefel elit, mae tîm merched Cymru wedi cael cryn lwyddiant ac mae ein perthynas gref â Chlwb Criced Morgannwg yn amlwg trwy ein strategaeth ar y cyd gyda’r ddau gorff yn gweithio ar hwnnw.
“Does gen i ddim amheuaeth na fyddai llawer o hyn wedi bod yn bosib heb arweiniad tawel, meddylgar a deallus Peter. Fe fydd colled fawr ar ei ôl e, a dymunaf bob hapusrwydd iddo yn y blynyddoedd i ddod.”