Ar drothwy gêm yng Nghaerdydd mae Gareth Bale yn dweud ei fod yn hapus ei fyd a’i fod yn “barod amdani”.

Bydd tîm pêl-droed Cymru yn mynd benben ag Azerbaijan nos Wener (Medi 6) gyda’r nod o ennill lle yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd, a daw sylwadau’r chwaraewr yn dilyn cyfnod anodd iddo.

Roedd disgwyl iddo ymuno â chlwb yn Tsieina dros yr haf, ond cafodd hynny ei rhwystro gan ei glwb presennol, Real Madrid.

Hefyd, mi fethodd a sgorio gôl i’r clwb yma am chwe mis, ond mi sgoriodd dwy gôl iddyn nhw ar dydd Sul, a bellach mae wedi dweud ei fod yn ddigon bodlon â phethau.

Gareth Bale yn “hapus”

“Mae’r cyfnod o drosglwyddo chwaraewyr rhwng clybiau bellach wedi dod i ben,” meddai. “Dw i ddim yn credu y cafodd hynny lawer o effaith arna i yn feddyliol.

“Doeddwn i ddim wedi chwarae am ryw bedair, neu chwe, wythnos. Dw i’n hapus fy mod wedi sgorio i’r clwb yn ddiweddar. Dw i’n ffit yn awr, a dw i’n barod amdani.”

Mae Rheolwr tîm Cymru, Ryan Giggs, wedi datgelu bod Ben Woodburn yn debygol o fod oddi ar y cae yng Nghaerdydd gan ei fod yn sâl. Er hynny, mae gweddill y garfan yn ffit, meddai.