Mae Morgannwg dan bwysau eisoes ar drothwy ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Llandrillo-yn-Rhos.
Cafodd y sir Gymreig eu bowlio allan am 257 cyn i’r ymwelwyr orffen ar 85 am un yn eu batiad cyntaf nhw.
Cipiodd Tom Bailey a Danny Lamb bedair wiced yr un i sir y Rhosyn Coch, a dim ond tri o fatwyr Morgannwg – Charlie Hemphrey (56), Samit Patel (54) a Lukas Carey (51 heb fod allan) lwyddodd i sgorio hanner canred.
Daeth hanner canred Samit Patel yn ei gêm gyntaf i’r sir, ac yntau ar fenthyg o Swydd Nottingham am bedair gêm Bencampwriaeth.
Ac fe wnaeth e achub Morgannwg, i bob pwrpas, ar ôl iddyn nhw fod yn 145 am wyth ar un adeg.
Erbyn diwedd y dydd, roedd y Saeson yn 85 am un, gyda Keaton Jennings heb fod allan bedwar rhediad yn brin o’i hanner canred, a Josh Bohannon newydd ddod i’r llain ar ôl i Ruaidhri Smith daro coes Alex Davies o flaen y wiced am 32.
Batiad cyntaf Morgannwg
Ar ôl dewis batio ar lain sydd fel arfer yn cynnig cymorth i fatwyr yn gynnar yn y gêm, roedd Morgannwg mewn trafferthion wrth lithro i 12 am ddwy o fewn saith pelawd.
Cafodd Nick Selman ei ddal gan y wicedwr Dane Vilas oddi ar fowlio Tom Bailey cyn i’r un bowliwr daro coes Shaun Marsh o flaen y wiced.
Mae Shaun Marsh yn chwarae yn ei gêm gyntaf ers dychwelyd i’r sir ar ôl torri ei fraich wrth chwarae dros Awstralia yng Nghwpan y Byd.
Ychwanegodd Charlie Hemphrey a Billy Root 50 am y bedwaredd wiced cyn i’r bowliwr gipio’i drydedd wiced wrth daro coes Billy Root o flaen y wiced am 32 gyda’i belen gyntaf ar ôl cinio.
Aeth Charlie Hemphrey yn ei flaen i sgorio 56, gydag wyth ergyd i’r ffin, cyn i Danny Lamb daro’i goes o flaen y wiced a Morgannwg erbyn hynny yn 139 am bump.
Ond fe lithron nhw eto i 154 am wyth o fewn dwy belawd, wrth golli Chris Cooke oddi ar fowlio Richard Gleeson, a Graham Wagg a Ruaidhri Smith oddi ar fowlio Danny Lamb.
Sgoriodd Morgannwg 112 am eu dwy wiced olaf, diolch yn bennaf i fatio cryf Samit Patel, oedd wedi ychwanegu 60 am y nawfed wiced gyda Lukas Carey.
Ond cafodd Samit Patel ei ddal gan Dane Vilas oddi ar fowlio Tom Bailey, wrth i Lukas Carey orffen y batiad heb fod allan, wrth wylio Michael Hogan yn taro 32 cyn iddo gael ei fowlio gan Saqib Mahmood.