Mae gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Middlesex yn Radlett yn debygol o orffen yn gyfartal ar y diwrnod olaf heddiw (dydd Mercher, Mehefin 19).
Dim ond 48 o belawdau oedd yn bosib ar y trydydd diwrnod, fel bod Morgannwg yn dechrau’r diwrnod olaf ar 274 am naw yn eu batiad cyntaf – 136 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Middlesex o 410.
Cipiodd Steven Finn bum wiced mewn batiad am y tro cyntaf y tymor hwn, ar ôl i Forgannwg ddechrau’r diwrnod ar 112 am dair.
Batio cadarn gan Forgannwg
Tarodd y capten David Lloyd 59 mewn partneriaeth o 86 gyda Tom Cullen (50), cyn i Graham Wagg sgorio 37 heb fod allan.
Cafodd Billy Root ei fowlio am 17 ganddo, cyn i’r bowliwr gipio wiced Owen Morgan am ddim, wrth iddo roi daliad i’r wicedwr John Simpson. Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 118 am bump.
Ond tarodd Morgannwg yn ôl wrth i David Lloyd gyrraedd ei hanner canred cyn tynnu pelen gan Steven Finn i ddwylo Tom Helm.
Middlesex yn taro’n ôl
Cyrhaeddodd Tom Cullen ei drydydd hanner canred mewn pum gêm cyn i Paul Stirling gipio dwy wiced mewn pelawd.
Cafodd Tom Cullen ei ddal yn agos gan Stevie Eskinazi cyn i Marchant de Lange gael ei ddal ar ochr y goes gan Tim Murtagh.
Erbyn hynny, roedd Morgannwg o fewn 28 rhediad o osgoi gorfod canlyn ymlaen, a batiodd Graham Wagg a Lukas Carey i groesi’r trothwy.
Cafodd Lukas Carey ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored gan George Scott oddi ar fowlio Steven Finn, a Morgannwg yn 266 am naw.
Ond daeth y glaw yn fuan wedyn, a daeth y chwarae i ben am 5 o’r gloch.