Mae tîm criced Morgannwg wedi curo Swydd Northampton o fatiad a 143 o rediadau ar ddiwrnod ola’r gêm Bencampwriaeth yn Northampton.
Cwympodd holl wicedi’r Saeson mewn ychydig yn llai na dwy sesiwn heddiw, wrth i Ben Sanderson, eu batiwr olaf, fethu â batio oherwydd anaf.
Roedden nhw’n 68 heb golli wiced ar ddechrau’r diwrnod olaf, ond fe ddaeth yr ornest i ben gyda’r sgôr yn 195 am naw.
Cipiodd Michael Hogan bedair wiced am 32, ac roedd tair wiced i Marchant de Lange am 61, gyda dwy wiced hefyd i’r troellwr coes Marnus Labuschagne.
Manylion y dydd
Ar ôl cyrraedd ei hanner canred oddi ar 65 o belenni, cafodd Ben Curran ei ddal gan y wicedwr Tom Cullen, ei ddaliad cyntaf o bump yn y batiad, am 52.
Roedd y Saeson yn 143 am dair erbyn amser cinio, ar ôl iddyn nhw hefyd golli Ricardo Vasconcelos a’r capten Alex Wakely yn ystod y sesiwn.
Cafodd y naill a’r llall eu dal gan Tom Cullen oddi ar fowlio Michael Hogan.
Agorodd y llifddorau ar ôl hynny, wrth i Swydd Northampton golli’r chwe wiced olaf o fewn 14.1 o belawdau.
Un ar ôl y llall
Tarodd Michael Hogan goesau Temba Bavuma (34) a Rob Keogh (43) o flaen y wiced, cyn i Tom Cullen a Marchant de Lange gyfuno ddwywaith i waredu Josh Cobb a Luke Procter.
Erbyn hynny, roedden nhw’n 172 am saith, ac fe gwympodd y ddwy wiced olaf mewn pelawdau olynol gan Marnus Labuschagne.
Cafodd Luke Wood ei fowlio gan y troellwr coes, cyn i Nathan Buck gael ei ddal gan Kiran Carlson.
Y Saeson dan bwysau drwyddi draw
Fe fu Swydd Northampton dan bwysau drwyddi draw, ond roedd ganddyn nhw lygedyn o obaith ar y trydydd diwrnod, ar ôl colli rhan fwya’r diwrnod oherwydd y glaw.
Ar ôl iddyn nhw gael eu bowlio allan am 209 yn y batiad cyntaf, dioddefodd eu bowlwyr wrth i Forgannwg sgorio 547, i roi blaenoriaeth batiad cyntaf iddyn nhw o 338.
Sgoriodd Billy Root 229, sy’n record i’r sir yn erbyn Swydd Northampton, gan guro 228 Roy Fredericks ar gae San Helen yn Abertawe yn 1972 – batiad a arweiniodd at sefydlu Orielwyr San Helen.
Byddai mynd y tu hwnt i’r cyfanswm batiad cyntaf ac adeiladu blaenoriaeth yn her i Swydd Northampton, ac fe gawson nhw eu chwalu yn y pen draw gyda sesiwn a hanner yn weddill o’r ornest.