Mae Morgannwg a Swydd Gaerloyw wedi gorffen yn gyfartal ar ddiwrnod olaf eu gêm Bencampwriaeth ar Barc Spytty yng Nghasnewydd.
Bu’n rhaid i Swydd Gaerloyw wynebu 51 o belawdau, gyda nod o 269, i achub y gêm, ar ôl batio campus gan Forgannwg yn eu hail fatiad ar ôl canlyn ymlaen.
Ar ddiwedd yr ornest, roedd Swydd Gaerloyw wedi cyrraedd 137 am chwech heb fod buddugoliaeth yn bosib i’r naill dîm na’r llall.
Sgoriau ucha’ erioed
Ar ôl dechrau’r diwrnod olaf ar 359 am un, collodd Morgannwg ddau fatiwr allweddol yn gynnar yn ystod sesiwn y bore.
Cafodd Nick Selman ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio David Payne am 150, ei sgôr gorau erioed mewn gêm ddosbarth cyntaf. Roedd ei bartneriaeth gyda Marnus Labuschagne yn werth 231.
Lai na chwe phelawd yn ddiweddarach, tarodd Matt Taylor goes Marnus Labuschagne o flaen y wiced am 137, ei sgôr gorau erioed yntau hefyd mewn gêmd cyntaf.
Roedd David Lloyd, capten dros dro Morgannwg, allan o dan amgylchiadau amheus saith pelawd yn ddiweddarach, wrth i David Payne daro’i goes o flaen y wiced am 34. Ond mae deunydd fideo’n awgrymu i’r bêl daro ymyl y bat cyn ei goes.
Gosod targed
Doedd dim amheuaeth pan gafodd Billy Root ei ddal gan Ryan Higgins oddi ar ei fowlio’i hun am 17, wrth dynnu pelen gam yn ôl at y bowliwr, a’r sgôr yn 432 am bump.
Roedden nhw’n 442 am chwech pan gafodd Jeremy Lawlor ei fowlio gan Benny Howell am 21 wrth i’r bêl gadw’n isel.
Mantais o 233 oedd gan Forgannwg erbyn yr egwyl, gyda phedair wiced yn weddill yn yr ail fatiad. Ond cafodd Marchant de Lange ei ddal yn y slip gan Benny Howell yn y slip oddi ar bumed pelen David Payne ar ôl cinio, a’r sgôr yn 446 am saith.
Cwympodd yr wythfed wiced ar 476, pan gafodd Kieran Bull ei ddal gan Gareth Roderick oddi ar fowlio David Payne am bump, ac fe gaeodd Morgannwg y batiad ar 481, gan osod nod o 269 i Swydd Gaerloyw mewn lleiafswm o 51 o belawdau.
Y Saeson yn cwrso
Cafodd bowlwyr Morgannwg y dechrau gorau posib wrth roi Swydd Gaerloyw dan bwysau gyda chyfres o wicedi cynnar.
Cafodd Chris Dent, capten Swydd Gaerloyw, ei ddal yn y slip gan Nick Selman oddi ar fowlio Timm van der Gugten ar ddechrau’r ail belawd.
Collodd Swydd Gaerloyw eu hail wiced ar 27, pan gafodd Miles Hammond ei ddal gan Tom Cullen, yr eilydd o wicedwr, oddi ar fowlio Marchant de Lange am 14.
Cwympodd y drydedd wiced ar 39, pan gafodd James Bracey ei ddal yn uchel yn y slip gan Nick Selman oddi ar fowlio Graham Wagg am 22.
Cafodd George Hankins ei fowlio gan y troellwr Kieran Bull am ddau, wrth i bedwaredd wiced y Saeson gwympo ar 41.
Cyrraedd y trothwy
Pan ddechreuodd y cyfnod pan all gêm gyfartal gael ei galw, roedd Swydd Gaerloyw’n 84 am bedair, ac roedd gobeithion y naill dîm a’r llall o ennill yn pylu.
Ond cipiodd Morgannwg bumed wiced Swydd Gaerloyw ar ôl 34.2 o belawdau, wrth i David Lloyd gipio daliad isel campus oddi ar fowlio’r troellwr Kieran Bull am 44, a’r sgôr yn 103.
Daeth y wiced fawr i Forgannwg pan gafodd Gareth Roderick ei ddal gan Tom Cullen am 19 oddi ar fowlio Marnus Labuschagne, a’r sgôr yn 107 am chwech.
Ond dyna’r llwyddiant ola’ ac roedd Caerloyw yn 137 am chwech ar ddiwedd yr ornest.
Crynhoi gweddill y gêm
Ar ôl gwahodd Swydd Gaerloyw i fatio, fe dalodd ar ei ganfed i Forgannwg wrth iddyn nhw gipio wicedi’n gynnar ar y diwrnod cyntaf, ac fe orffennodd Marchant de Lange gyda phedair.
Ond sgoriodd James Bracey 152, Ryan Higgins 103 a Gareth Roderick 88, wrth i’r Saeson lwyddo i gyrraedd 463 yn eu batiad cyntaf.
Wrth ymateb, dim ond Charlie Hemphrey (60) a Graham Wagg (50) lwyddodd i sgorio hanner canred, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 250, a’r troellwr 20 oed George Drissell yn cipio pedair wiced.
Roedd y gêm ymhell o afael Morgannwg wrth iddyn nhw orfod canlyn ymlaen, ond yn dilyn cyfres o bartneriaethau rhwng Nick Selman, Marnus Labuschagne a Charlie Hemphrey, fe lwyddon nhw i sicrhau eu bod nhw’n dal yn y gêm hyd y diwedd.