Fe fydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth dros Surrey ddydd Sul, wrth iddyn nhw deithio i Fryste i herio Swydd Gaerloyw yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London heddiw.
Honno oedd eu buddugoliaeth gynta’r tymor hwn.
Yr un garfan sydd wedi’i henwi unwaith eto gan Matthew Maynard, y prif hyfforddwr dros dro.
Daw’r myfyriwr ifanc Dan Douthwaite i mewn yn lle Kiran Carlson ar gyfer ei gêm gyntaf i’r sir, a Lukas Carey i mewn yn lle Michael Hogan, sydd wedi anafu llinyn y gâr.
Bydd Morgannwg yn gobeithio am berfformiad cryf arall gan Billy Root, ar ôl iddo daro 113 heb fod allan ddydd Sul, ei sgôr gorau erioed mewn gêm Restr A.
Torri sawl record
Cafodd ei gefnogi mewn partneriaeth gadarn gan Marchant de Lange, a darodd 58 heb fod allan, ei sgôr gorau erioed yntau mewn gêm Restr A hefyd. Roedd y bartneriaeth yn record i Forgannwg ar gyfer yr wythfed wiced, gan efelychu record Matthew Maynard ac Alex Wharf yn erbyn Swydd Northampton yn 2004.
Yn y gêm flaenorol yn erbyn Gwlad yr Haf, adeiladodd Lukas Carey a Timm van der Gugten bartneriaeth o 57 am y wiced olaf, gan dorri record Mike Powell ac Owen Parkin (45) yn erbyn yr un sir yn 2002.
Gemau’r gorffennol
Mae’n addo bod yn gêm gyffrous unwaith eto rhwng y siroedd sy’n gymdogion ar y naill ochr i’r ffin a’r llall.
Tra bod Morgannwg yn seithfed yn y tabl, mae Swydd Gaerloyw’n bedwerydd ar ôl curo ennill tair gêm allan o dair ar eu tomen eu hunain.
Y Saeson oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol yn y gystadleuaeth hon y llynedd, wrth i Chris Liddle gipio pedair wiced cyn i George Hankins daro 85 a Chris Dent 80 i selio’r fuddugoliaeth o wyth wiced.
Ond Morgannwg oedd yn fuddugol yn 2016 a 2017, y gyntaf o 18 rhediad diolch i 121 gan Jacques Rudolph a thair wiced Colin Ingram.
Swydd Gaerloyw oedd deiliaid y gwpan yn 2016, ac fe lwyddodd Morgannwg i’w curo diolch i 75 gan Will Bragg, cyn i Graham Wagg a Timm van der Gugten fowlio’n gampus i gipio’r fuddugoliaeth o 52 rhediad.
Y Saeson oedd yn fuddugol yn y ddwy gêm Restr A rhwng y ddwy sir yn 2013.
Swydd Gaerloyw: C Dent (capten), G Roderick, J Bracey, B Howell, J Taylor, R Higgins, G van Buuren, T Smith, D Payne, C Liddle, M Hammond
Morgannwg: C Cooke (capten), L Carey, D Douthwaite, M de Lange, C Hemphrey, M Labuschagne, J Lawlor, D Lloyd, B Root, T van der Gugten, G Wagg