Mae cefnogwr tîm criced Morgannwg wedi mynd ati i gyhoeddi llyfryn yn adrodd hanes gêm gynta’r sir yn 1889.
Cafodd Clwb Criced Morgannwg ei sefydlu yn 1888, a chafodd y gêm gyntaf yn erbyn Swydd Warwick ei chynnal ar Barc yr Arfau ar Fehefin 21 a 22 flwyddyn yn ddiweddarach.
Yn y dyddiau cynnar, roedd y sir yn chwarae yn erbyn timau lleol a Seisnig cyn ennill statws dosbarth cyntaf ac ymuno â Phencampwriaeth y Siroedd yn 1921.
Mae’r llyfryn gan David Battersby hefyd yn crybwyll un o fawrion y gêm, WG Grace, oedd yn chwarae i Swydd Gaerloyw, yn ogystal â gemau cynnar yn erbyn timau lleol oedd yn cynnwys sêr o Swydd Efrog.
Mae 55 copi wedi’u llofnodi ar gael ar y we.
Hanes y gêm
Colli o wyth wiced oedd hanes Morgannwg yn y gêm gyntaf honno, wrth i John Shilton gipio 12 o wicedi i’r Saeson – pum wiced yn y batiad cyntaf a saith yn yr ail fatiad.
Roedd John Shilton yn un o ddau enw cyfarwydd yn nhîm Swydd Warwick. Y llall oedd y wicedwr Dick Lilley, oedd yn 22 oed ar y pryd ond a aeth yn ei flaen i gynrychioli Lloegr.
O safbwynt Morgannwg, cipiodd James Lindley bum wiced am 51.
Mae’r llyfryn hefyd yn crybwyll tair gêm arall y flwyddyn honno, sef y golled a’r gêm gyfartal yn erbyn tîm yr MCC, a buddugoliaeth gynta’r sir, dros Surrey ar gae’r Oval.
Disgrifiad o’r llyfryn
“Dydy Glamorgan CCC’s First Ever Game ddim yn mynd i apelio at lawer, ond i’r rhai sy’n hoffi’r math yma o beth, a dydy’r awdur ddim yn ymddiheuro am fod yn un o’r cyfryw bobol, mae’n sicr yn ddiddorol,” meddai adolygiad o’r llyfryn ar wefan Cricket Web.
Mae’r adolygiad yn nodi mai un o’i gryfderau yw’r dystiolaeth, gan gynnwys 13 darn o ohebiaeth, sy’n rhoi manylion am y gêm.
“Does dim byd syfrdanol ymhlith y cynnwys criced, ond mae’n sicr yn ddiddorol gweld sut fyddai llythyron ffurfiol yn cael eu hysgrifennu dros ganrif yn ôl ac yn ddieithriad, mae ansawdd y llawysgrifen yn sicr yn ein hatgoffa o oes a fu.”