Mae Hugh Morris wedi gadael ei rôl yn Gyfarwyddwr Criced Morgannwg, ond fe fydd yn parhau’n Brif Weithredwr.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad allanol o berfformiad siomedig y sir yn 2018.
Fe fu yn ei rôl ers bron i bum mlynedd.
Fe fydd Morgannwg yn chwilio am Gyfarwyddwr Criced newydd ar unwaith.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Hugh Morris, “Gyda’r perfformiadau siomedig ar y cae y tymor hwn a’r angen i rannu fy amser yn well ar draws y busnes, penderfynwyd rhannu swydd y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Criced yn y clwb.”
Fe fydd Hugh Morris nawr yn canolbwyntio ar ei waith wrth baratoi i gynnal pedair gêm Cwpan y Byd yng Ngerddi Sophia yn 2019, yn ogystal â gêm ryngwladol ugain pelawd.
Ychwanegodd, “Rydym hefyd yn cydweithio â Chriced Cymru i ddatblygu strategaeth ar gyfer criced yng Nghymru i dyfu’r gêm drwy’r wlad.”
Dywedodd fod yr “amser yn iawn i fi a’r clwb ddod â rhywun i mewn â phersbectif ffres i arwain yr adran ac i ddod â llwyddiant i Forgannwg ar y cae.”
Mae disgwyl rhagor o gyhoeddiadau yn sgil yr adolygiad allanol maes o law.