Fe fydd profiad y chwaraewr rhyngwladol Stephen Cook yn bwysig i dîm criced Morgannwg ar ddiwedd y tymor, yn ôl y prif hyfforddwr Robert Croft.
Mae’r batiwr o Dde Affrica wedi ymuno â’r sir tan ddiwedd y tymor, ac fe fydd e ar gael ar gyfer eu pedair gêm olaf yn y Bencampwriaeth, ar ôl iddyn nhw golli’r Awstraliaid Shaun Marsh oherwydd anaf, ac Usman Khawaja oherwydd ymrwymiadau rhyngwladol.
Tîm ifanc sydd gan Forgannwg y tymor hwn, ac maen nhw wedi bod heb nifer o’u chwaraewyr profiadol drwy gydol y tymor oherwydd anafiadau.
Dim ond un gêm mae’r Cymry wedi’i hennill yn y gystadleuaeth pedwar diwrnod y tymor hwn.
Ond yn ôl Robert Croft, fe fydd profiad y batiwr 35 oed yn allweddol wrth i Forgannwg herio Swydd Derby, Swydd Gaerlŷr, Swydd Gaerloyw a Swydd Gaint cyn diwedd y tymor.
Dywedodd Robert Croft ar ôl colli yn erbyn Swydd Warwick yn Llandrillo yn Rhos, “Mae’n bwysig i gael profiad i mewn yn y garfan nawr.
“Ni wedi colli Shaun Marsh, mae Usman Khawaja wedi mynd adre’ a Joe Burns [chwaraewr ugain pelawd] wedi mynd adre’.
“Mae cael rhywun fel fe yn y garfan… mae e wedi sgorio dros 40 cant yn y gêm. Mae e’n chwarae mewn gemau prawf.”
Hyder
Fe fu’n amlwg ers tro bod chwaraewyr ifainc Morgannwg yn brin o hyder, wrth i’r sir barhau â’u polisi o ddewis chwaraewyr o Gymru.
Ond yn ôl Robert Croft, gall Stephen Cook danio ar unwaith er mwyn rhoi cymorth iddyn nhw cyn i’r tymor ddod i ben, a dydy e ddim yn disgwyl i’r daith ar draws y byd effeithio arno cyn y gêm yn Derby ddydd Mawrth.
“Mae’n bwysig i ni drio codi’r hyder tipyn bach a hefyd roi help i’r bois ifainc.
“Mae [Stephen Cook] dod o Dde Affrig. Sai’n credu bod lot o time difference! Y peth pwysig yw bod pedair gêm ar ôl gyda ni a llawer o griced i’w chwarae.
“Os yw e’n gallu dod i mewn a rhoi help i’r bois ifainc a sgorio rhediadau ar y cae, mae e’n mynd i helpu pawb.”