Mae Morgannwg yn croesawu Swydd Warwick i Landrillo yn Rhos heddiw (dydd Mercher, Awst 29) ar gyfer eu gêm flynyddol yng Ngŵyl Griced Gogledd Cymru.
Mae 91 o bwyntiau’n gwahanu’r timau, wrth i’r Saeson geisio dyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth, tra bod Morgannwg heb fuddugoliaeth ers gêm gynta’r gystadleuaeth ar ddechrau’r tymor.
Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Warwick yng Nghymru ers 1993, pan gipiodd y chwaraewr amryddawn Adrian Dale chwe wiced am 18 – ei ffigurau gorau erioed wrth i’r Saeson gael eu bowlio allan am 125 yn eu batiad cyntaf. Tarodd y capten Hugh Morris hanner canred wedyn i sicrhau buddugoliaeth o ddwy wiced ar y trydydd diwrnod.
Gemau’r gorffennol
Dim ond unwaith y mae Swydd Warwick wedi chwarae ar y cae hwn yn y gorffennol, yn 2005, ac roedden nhw’n fuddugol o ddeg wiced ar ôl i Ian Westwood a Jonathan Trott daro canred yr un i sicrhau’r fuddugoliaeth o fewn tri diwrnod.
Dydy’r ddau dîm ddim wedi herio’i gilydd yn y Bencampwriaeth ers 2008 – y Saeson oedd yn fuddugol bryd hynny hefyd, a hynny o bum wiced. Tarodd Ian Westwood 176 cyn i’r bowliwr cyflym James Anyon gipio chwe wiced wrth i Forgannwg ganlyn ymlaen, a chipiodd Chris Woakes bum wiced yn yr ail fatiad.
Y tymor diwethaf, collodd Morgannwg yn erbyn Sussex yn Llandrillo yn Rhos, wrth i Ollie Robinson fatio’n gadarn i sicrhau buddugoliaeth i’r Saeson o un wiced.
Y timau
Gallai’r gêm hon fod yn frwydr rhwng dau droellwr – y naill yn athro ar y llall yn ystod y gaeaf, wrth i droellwr Morgannwg, Andrew Salter dreulio cyfnod yn cael ei fentora yn Seland Newydd gan droellwr Swydd Warwick, Jeetan Patel.
Mae Morgannwg wedi cyhoeddi dau newid i’r garfan, wrth i’r chwaraewr amryddawn Graham Wagg a’r batiwr Tom Cullen gael eu cynnwys. Dydy Graham Wagg ddim wedi chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.
Mae’r bowliwr cyflym o Bontarddulais, Lukas Carey allan ag anaf, ond mae’r garfan yn cynnwys saith chwaraewr sydd wedi dod drwy rengoedd y sir, gan gynnwys y chwaraewr amryddawn o’r gogledd, David Lloyd.
Morgannwg: N Selman, J Murphy, C Brown, K Carlson, D Lloyd, C Cooke, G Wagg, A Salter, C Meschede, R Smith, M Hogan (capten)
Swydd Warwick: W Rhodes, D Sibley, I Bell, J Trott, S Hain, T Ambrose, K Barker, J Patel (capten), C Wright, R Sidebottom, O Stone