Does “unman gwell” na Llandrillo yn Rhos i dîm criced Morgannwg geisio gwyrdroi eu perfformiadau diweddar, yn ôl Gogleddwr y sir, David Lloyd.
Fe fydd y Cymry’n herio Swydd Warwick mewn gêm Bencampwriaeth yno ddydd Mercher (Awst 29), wrth iddyn nhw geisio ennill eu gêm gyntaf ers gêm gynta’r tymor. Maen nhw wedi colli eu chwe gêm ers hynny yn yr Ail Adran.
Daw’r gêm ar ddiwedd cyfnod anodd i’r sir, ar ôl iddyn nhw fynd allan o gystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast cyn rownd yr wyth olaf, ac fe ddaeth y newyddion hefyd am ymadawiad y batiwr ifanc Aneurin Donald, sydd wedi ymuno â Swydd Hampshire ar fenthyg tan ddiwedd y tymor, cyn symud yno’n barhaol y tymor nesaf.
Ar drothwy’r gêm yn y gogledd, dywedodd David Lloyd, “Bydd hi’n braf dychwelyd i’r gogledd a chwarae gartre’, a hefyd i weld nifer o wynebau cyfarwydd.
“Ond yn gynta’, rhaid i ni ddatrys ein perfformiadau a does unman gwell i wneud hynny. Gobeithio y cawn ni rediadau ar y bwrdd ac y cawn ni rywfaint o hyder yn ôl, a gweld sut eith hi o’r fan honno.”
Prinder rhediadau
Fe fu prinder rhediadau’n broblem ddifrifol i Forgannwg y tymor hwn, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am lai na 200 ddwywaith yn erbyn Swydd Durham yng Nghaerdydd.
Cyn hynny, cawson nhw grasfa o dan y llifoleuadau yn erbyn Sussex yn Hove, wrth gael eu bowlio allan am 88 ac 85 wrth golli o fatiad a mwy.
Dydyn nhw ddim wedi ennill yr un gêm ers curo Swydd Gaerloyw ym Mryste ar ddechrau’r tymor.
Gêm yn y gogledd yn 2017
Y tymor diwethaf, roedd yr ornest rhwng Morgannwg a Sussex yn un gyffrous, wrth i’r Cymry golli o un wiced yn erbyn Sussex, wrth i Ollie Robinson ddychwelyd ar ôl anaf a tharo 41 oddi ar 37 o belenni, a tharo chwech i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Yn debyg i’r tymor hwn, roedd tîm Morgannwg y diwrnod hwnnw’n frith o chwaraewyr ifainc o Gymru, ond roedd ganddyn nhw gefnogaeth chwaraewyr profiadol fel Craig Meschede, a darodd 87 yn y batiad cyntaf a 41 yn yr ail fatiad.
Ychwanegodd David Lloyd, “Mae’n llain dda yma fel arfer.
“Gwnaeth yr hogiau yn dda y tro dwytha, er iddyn nhw golli o un wiced. Roedd y tîm yn un ifanc yma, ond mi ddangoson nhw arwyddion o chwarae’n dda a gobeithio y medrwn ni fynd yno ac anghofio’r hyn ddigwyddodd dros yr wythnosau dwytha’, a cheisio mwynhau ein criced.”
Batiad hanesyddol
Tra bod criw presennol Morgannwg yn ei chael hi’n anodd sgorio rhediadau ar hyn o bryd, fe ddigwyddodd batiad hanesyddol Steve James yn Llandrillo yn Rhos yn 2000, pan darodd e 309 heb fod allan yn erbyn Sussex.
Cafodd Morgannwg eu gwahodd i fatio ac fe adeiladodd Steve James a Matthew Elliott bartneriaeth agoriadol o 374, wrth i Forgannwg sgorio 718 am dair. Steve James, hyd heddiw, yw’r unig fatiwr yn hanes y sir i sgorio tri chant a mwy mewn batiad.
Gwrthwynebwyr yn llawn hyder
Y tro hwn, fe fydd Morgannwg yn wynebu tîm Swydd Warwick sy’n llawn hyder wrth iddyn nhw fynd am ddyrchafiad i’r Adran Gyntaf ar ddiwedd y tymor.
Yn eu gêm ddiwethaf, curon nhw Swydd Gaerloyw o fatiad a 47 rhediad yn Edgbaston.
Yn gynharach y tymor hwn, y Saeson oedd yn fuddugol wrth i Forgannwg deithio i’w cartref yng nghanolbarth Lloegr, wrth i Ian Bell daro canred yn y naill fatiad a’r llall.
Ond yn ôl David Lloyd, roedd eu perfformiad yn y gêm honno’n rheswm i fod yn optimistaidd y tro hwn.
“Mi ddangoson ni yn eu cartre’ nhw y medrwn ni gystadlu hefo tîm da. Yn amlwg, mi fyddwn ni’n ceisio gwneud yn well na’r tro dwytha’ ar ôl colli.
“Ond rydan ni’n gwybod pa mor dda ydan nhw, a’u bod nhw’n mynd am ddyrchafiad.
“Mi wnawn ni bopeth fedrwn ni i ddifetha’u hymgais nhw am ddyrchafiad.”