Mae chwaraewr amryddawn tîm criced Morgannwg, Craig Meschede yn dweud ei fod yn dyheu o hyd am gynrychioli Lloegr – er iddo gael ei alw i garfan yr Almaen.
Mae gan yr Almaen dîm cenedlaethol sy’n chwarae ar lefel ryngwladol gymharol isel, ond fe allen nhw gyrraedd Cwpan T20 y Byd ar ddiwedd gemau rhagbrofol yn erbyn Awstria, Cyprus, Denmarc, Ffrainc a Phortiwgal.
Fe gafodd y chwaraewr, sy’n enedigol o Dde Affrica, yr alwad “annisgwyl” i gynrychioli’r Almaen wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y gemau rhagbrofol yn yr Iseldiroedd ddiwedd y mis.
Dywedodd wrth golwg360: “Cysylltodd un o’r bois â fi i weld ac o’n i’n gallu helpu mewn unrhyw ffordd. Mae gyda fi wreiddiau Almaenig ac felly ro’n i’n credu y byddai’n beth da i helpu gan fod fy nhad yn Almaenwr.
“Dim ond nad oedd yn effeithio ar gymhwyso dros Loegr, ro’n i’n hapus i helpu.”
Dychwelyd ar ôl anaf
Ar ôl bod allan am gyfnod sylweddol a rhwystredig ag anaf ar ddechrau’r tymor, fe ddaeth ei alwad i garfan yr Almaen yn sgil nifer o berfformiadau clodwiw i Forgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.
“Roedd yr anaf yn eitha’ difrifol,” meddai. “Ro’n i allan am gyfnod eitha’ hir. Fe wnes i drio aros mor bositif ag y gallwn i.
“Ro’n i yn y gampfa dipyn ac yna’n syth i mewn i fformat y T20, y fformat mwyaf anodd i ddychwelyd iddo, o bosib. Ro’n i wedi bod yn perfformio’n dda cyn yr anaf.”
Hyblyg
Ac mae e wedi bod yn perfformio’n dda ers hynny hefyd, wrth daro 77 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerloyw yr wythnos ddiwethaf – ei sgôr unigol gorau erioed mewn gêm ugain pelawd.
Tra ei fod e wedi cael rhwydd hynt i fatio fel y mynnai yn y fuddugoliaeth o bedair wiced dros Surrey ar yr Oval, wrth daro 43 oddi ar 19 o belenni mewn partneriaeth allweddol gyda Kiran Carlson, roedd y sefyllfa yn erbyn Swydd Gaerloyw’n gwbl wahanol.
“Roedden ni’n colli wiced ar ôl wiced o ’nghwmpas i! Roedd rhaid i fi fod yn angor ar gyfer y batiad, a fy rôl i oedd aros yno cyhyd â phosib a bod yno ar ddiwedd y batiad.”
Sgoriodd Morgannwg 201 am chwech, wrth i Craig Meschede daro’i 77 heb fod allan oddi ar 47 o belenni, ac roedd y Cymry’n fuddugol o ddau rediad.
Ychwanegodd Craig Meschede, “Os gallwch chi gyrraedd 200, ry’ch chi’n sicr ar y blaen yn y gêm. Ond yn amlwg, mae’n amrywio o un llain i’r llall mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Batio’n uchel ar y rhestr
Yn ôl Craig Meschede, cael y cyfle i ddod i mewn ar ôl i’r wiced gyntaf gwympo sy’n bennaf gyfrifol am ei berfformiadau diweddar.
“Mae’n braf cael batio tua brig y rhestr, yn enwedig yn rhif tri. Dw i wedi batio yno i Wlad yr Haf a Morgannwg, ac yn teimlo y galla i chwarae fy ngêm naturiol i fyny’r rhestr.
“Dw i’n ei fwynhau ac yn achub ar unrhyw gyfleoedd y galla i.”
Fe ddaeth ei gyfle diweddaraf yn dilyn salwch y capten Colin Ingram. Ond mae’n dweud nad yw’n bwriadu ceisio batio yn yr un modd â’r batiwr llaw chwith o Dde Affrica.
“Dw i’n chwaraewr diarbed ac yn naturiol ymosodol. Byddai’n anodd iawn [dynwared dull Colin Ingram] oherwydd mae e’n chwaraewr o’r radd flaenaf yn y byd.
“Ond dw i’n amlwg yn mynd i chwarae â’r un bwriad, sef ceisio rhoi dechreuad da i’r tîm.”
Anafiadau
Yn ogystal â rhoi cyfle i’r to iau, mae colli Shaun Marsh, Usman Khawaja a Joe Burns yn ystod y gystadleuaeth ugain pelawd wedi rhoi cyfle o’r newydd i Craig Meschede serennu.
“Allwch chi ddim efelychu’r hyn maen nhw’n ei wneud, ond ry’ch chi’n gwneud eich gorau i lenwi’r safle hwnnw. Maen nhw’n chwaraewyr rhyngwladol ac yn gricedwyr rhagorol.”
Mae Morgannwg yn ddiguro mewn pum gêm ugain pelawd ac yn drydydd yn y tabl wrth groesawu Swydd Hampshire i Erddi Sophia heno (nos Wener, 7 o’r gloch).
Yn ôl Craig Meschede, maen nhw’n teimlo’n optimistaidd o ran eu gobeithion o gyrraedd rownd yr wyth olaf ac efelychu’r hyn wnaethon nhw’r tymor diwethaf wrth gyrraedd Diwrnod y Ffeinals yn Edgbaston.
“Ry’n ni’n bedair allan o bedair. Mae gyda ni fomentwm wrth fynd i mewn i’r gemau olaf. Gadewch i ni weld os gallwn ni gael y buddugoliaethau a chymryd ein lle yn rownd yr wyth olaf.”