Tarodd Alex Hales 58 heb fod allan wrth i Loegr guro India o bum wiced mewn gêm ugain pelawd yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.
Ar ôl gwahodd India i fatio, fe wnaeth Lloegr eu cyfyngu i 148 am bump, er i’r capten Virat Kohli sgorio 47.
Fe wnaethon nhw sicrhau’r fuddugoliaeth ym mhelawd ola’r ornest.
Dechrau siomedig
Ar ôl gwahodd India i fatio, dwy belawd yn unig gymerodd hi i Loegr gipio’u wiced gyntaf, wrth i Rohit Sharma daro’r bêl yn syth i’r awyr oddi ar fowlio Jake Ball i roi daliad syml i’r wicedwr Jos Buttler, a’r sgôr yn saith am un.
Collodd India eu dwy wiced nesaf o fewn pedair pelen i’w gilydd, wrth i Shikhar Dhawan gael ei redeg allan am ddeg wrth ollwng ei fat cyn cyrraedd y llain, cyn i Liam Plunkett fowlio KL Rahul am chwech, a’r sgôr yn 22 am dair o fewn pum pelawd ac yn 31 am dair ar ddiwedd y cyfnod clatsio.
Sefydlogrwydd
Erbyn hanner ffordd trwy’r batiad, roedd y capten Virat Kohli a’i bartner Suresh Raina wedi llwyddo i sefydlogi’r batiad rywfaint i India i gyrraedd 52-3 cyn dechrau clatsio ergydion i’r ffin i geiso codi’r gyfradd sgorio.
Ond buan y collodd Suresh Raina ei wiced, wrth gael ei stympio gan Jos Buttler oddi ar fowlio’r troellwr coes Adil Rashid am 27, a’r sgôr yn 79 am bedair ar ôl 12.2 pelawd, wrth i MS Dhoni ddod i’r llain i ymuno â’i gapten.
Roedden nhw wedi ychwanegu 32 pan dynnodd Virat Kohli y bêl i lawr corn gwddf Joe Root yn safle’r goes fain bell oddi ar fowlio David Willey am 47, a’r sgôr yn 111 am bump ar ddechrau’r ddeunawfed pelawd. Tarodd Kohli un pedwar a dau chwech.
Ychwanegodd MS Dhoni a Hardik Pandya 37 at y cyfanswm oddi ar y 17 pelen olaf i arwain eu tîm i 148 am bump erbyn diwedd y batiad.
Lloegr yn cwrso
Wrth gwrso nod ddi-nod o 149 am y fuddugoliaeth, dechreuodd Lloegr yn wael hefyd, wrth i Jason Roy gael ei fowlio gan Umesh Yadav am 15, a’r sgôr yn 16 am un ar ôl 2.1 pelawd.
Cafodd Jos Buttler ei ollwng wrth yrru ar yr ochr agored at Virat Kohli ar ymyl y cylch, ac yntau ar 10 ar y pryd.
Ond cwympodd dwy wiced o fewn pum pelen wedyn wrth i’r maeswr afael yn y bêl i waredu’r batiwr am 14, cyn i Joe Root gael ei fowlio gan y troellwr Yuzvendra Chahal am naw, a’r sgôr yn 44 am dair.
Yn nwylo’r capten Eoin Morgan a’i bartner Alex Hales roedd tynged Lloegr wedi hynny, ac fe adeiladon nhw bartneriaeth gadarn o 48 cyn i ddaliad campus, acrobataidd gan Shikhar Dhawan ar y ffin gipio wiced Eoin Morgan oddi ar fowlio Hardik Pandya am 17, a’r sgôr yn 92 am bedair ar ôl 13.1 pelawd.
Cael a chael…
Parhau i glatsio wnaeth Alex Hales wrth i Jonny Bairstow ymuno yn yr hwyl a tharo dau chwech oddi ar fowlio Kuldeep Yadav i gyfeiriad y brif eisteddle ar ochr y goes yn yr ail belawd ar bymtheg.
Ond roedd Jonny Bairstow yn ei ôl yn y pafiliwn ymhen dim o dro, wrth i Kuldeep Yadav gipio daliad gwych yn safle’r goes fain bell oddi ar fowlio Bhuvaneshwar Kumar, a’r batiwr allan am 28, a’r sgôr yn 126 am bump.
12 rhediad oddi ar y belawd olaf oedd y nod i Loegr, wrth i Alex Hales gyrraedd ei hanner canred gyda chwech oddi ar belen ola’r belawd olaf.
Fe gyrhaeddodd e’r garreg filltir oddi ar 39 o belenni a Lloegr yn sicrhau’r fuddugoliaeth gyda dwy belen yn weddill.