Roedd buddugoliaeth tîm criced Morgannwg dros Hampshire yn Southampton nos Wener yn “drobwynt mawr yn y tymor”, yn ôl y capten Colin Ingram.
Sicrhaodd y Cymry fuddugoliaeth o 63 o rediadau yn eu gêm gyntaf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast ar gae yr Ageas Bowl, a hynny yn erbyn y tîm a gododd Gwpan Royal London – y gystadleuaeth 50 pelawd – yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd y Saeson eu bowlio allan am 105 wrth gwrso 169 i ennill, wrth i’r troellwr o Sir Benfro, Andrew Salter gipio tair wiced am 34 – a dwy wiced yn yr un belawd.
Cipiodd Graham Wagg a Colin Ingram ddwy wiced yr un i sicrhau buddugoliaeth fwyaf erioed y Cymry yn y gystadleuaeth.
Dechrau araf ond y Cymry’n cyflymu
Dechreuodd Morgannwg eu batiad yn araf, wrth i Usman Khawaja gael ei fowlio gan y troellwr 17 oed, Mujeeb Ur Rahman.
Ond sgorion nhw 19 oddi ar ail belawd y troellwr, ac fe orffennodd e gyda ffigyrau clodwiw – un am 34.
Sgoriodd y capten Colin Ingram 35, ac fe darodd Aneurin Donald 26 wrth ddychwelyd i’r tîm ar ôl cyfnod siomedig gyda’r bat.
Tarodd y chwaraewr amryddawn o’r gogledd, David Lloyd ddau chwech enfawr tua diwedd y batiad, wrth sgorio 38 heb fod allan oddi ar 26 o belenni wrth i Forgannwg sgorio 168 am chwech.
Y Saeson yn chwalu
Ar un adeg, roedd y Saeson yn 12 am bedair ac yna’n 32 am saith wrth gwrso 169 i ennill.
Ond daeth ychydig o welliant diolch i bartneriaeth o 54 am yr wythfed wiced rhwng Kyle Abbott a Gareth Berg. Drwy hynny, fe lwyddon nhw i osgoi eu sgôr isaf erioed mewn gêm ugain pelawd.
Ond roedd yn golygu bod Morgannwg yn fuddugol gyda thair pelawd yn weddill, wrth i’r Saeson gael eu bowlio allan am 105.
“Dechrau gwych”
Ar ôl y gêm, dywedodd capten Morgannwg, Colin Ingram, “Roedd yn ddechrau gwych i ni.
“R’yn ni wedi bod yn gwneud y pethau bychain yn gywir wrth ymarfer a dyna lle dechreuodd y cyfan, ac fe wnaethon ni benderfyniadau da ar hyd y ffordd.
“O ran batio, fe ddangoson ni’r egni cywir a tharo ergydion da i’r ffin, ac roedd y bowlio’n anhygoel.
“Fe ddywedon ni cyn y gystadleuaeth ein bod ni am ei defnyddio hi i newid momentwm ymhlith y criw, a gallwn ni weld gwên ar wynebau eisoes.
“Dw i’n teimlo bod hwn yn drobwynt mawr yn ein tymor.”