Mae Morgannwg wedi colli eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yng Ngerddi Sophia o 233 o rediadau, ar ôl colli eu pum wiced olaf ar y diwrnod olaf am 79 o rediadau.
Ar ôl dechrau’r diwrnod olaf ar 121 am bedair, collodd Morgannwg eu wiced gyntaf pan darodd y troellwr coes, Seekkuge Prasanna goes y noswyliwr Timm van der Gugten am chwech, a’r sgôr yn 126 am bump.
Ychwanegodd Kiran Carlson a Chris Cooke 48 am y chweched wiced cyn i Carlson ergydio’n wyllt y tu allan i’r ffon agored a chael ei ddal gan y wicedwr Adam Rossington oddi ar fowlio Brett Hutton am 32.
Cwympodd y seithfed wiced pan gafodd Chris Cooke ei fowlio gan Brett Hutton gyda phelen a gadwodd yn isel ar y llain cyn taro’r ffon ganol, a’r sgôr yn 187 am saith. Ac roedden nhw’n 199 am wyth pan darodd Nathan Buck goes Ruaidhri Smith o flaen y wiced am bedwar.
Oherwydd bod y capten, Michael Hogan yn methu batio, Prem Sisodiya oedd y batiwr olaf allan, wedi’i ddal gan Ricardo Vasconcelos oddi ar fowlio Seekkuge Prasanna heb sgorio, a Swydd Northampton yn fuddugol o 233 o rediadau.