Fe lwyddodd tîm criced Siroedd Llai Cymru i osgoi colli’r gêm Bencampwriaeth oddi cartref yn Nyfnaint, diolch i ymdrech lew gan y batwyr, yn enwedig batiwr 17 oed o Gaerdydd, Umar Malik.
Cafodd 1,383 o rediadau eu sgorio yn ystod y gêm yn Sandford, gan gynnwys canred yr un i Malik a chapten Siroedd Llai Cymru, Brad Wadlan yn yr ail fatiad, wrth i Joe Voke a Sam Pearce (63) daro hanner canred yr un.
Nod o 564 oedd gan Gymru i ennill y gêm ac roedden nhw wedi colli naw wiced pan ddaeth Richard Edwards a Ben Roberts at ei gilydd am y wiced olaf i achub y gêm.
Yn gynharach yn y batiad, roedd Umar Malik, batiwr 17 oed o Gaerdydd yn ei gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth, wedi sgorio 105 mewn partneriaeth o 149 gyda Joe Voke (72). Ac fe darodd Brad Wadlan 118.
Roedd cyfraniadau yn y batiad cyntaf o 79 heb fod allan gan Sam Pearce, a 68 gan Chris Matthews.