Colli o wyth wiced oedd hanes Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerloyw yn eu gêm gyntaf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yng Ngerddi Sophia.
Sgoriodd Morgannwg 264 cyn cael eu bowlio allan gyda thair pelen o’r batiad yn weddill.
Wrth ymateb, tarodd George Hankins 85 i’r ymwelwyr, ei gyfanswm gorau erioed ac yntau’n fatiwr agoriadol amhrofiadol. Fe adeiladodd e bartneriaeth wiced gyntaf o 147 gyda’i gapten Chris Dent, oedd wedi sgorio 80 ar frig y batiad.
Ychwanegodd Hankins a Benny Howell 79 at y cyfanswm am yr ail wiced, oedd yn golygu bod y canlyniad yn edrych yn anochel yn gynnar yn y batiad.
Fe gyrhaeddodd yr ymwelwyr y nod yn y pen draw gyda 1.4 o belawdau’n weddill, a Benny Howell heb fod allan ar 68.
Manylion
Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, collodd Morgannwg ddwy wiced gynnar.
Cafodd Jack Murphy ei ddal gan Benny Howell oddi ar fowlio Ryan Higgins am naw yn y seithfed pelawd, cyn i Nick Selman daro ergyd ddiangen y tu allan i’r ffon agored a chael ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio Chris Liddle am 32.
Roedd Morgannwg, felly, yn 47 am ddwy wrth i’r ddau fatiwr peryglus, Shaun Marsh a’r capten Colin Ingram ddod ynghyd. Yn eu dwylo nhw roedd gobeithion Morgannwg o adfer y batiad.
Cyrhaeddodd Shaun Marsh ei hanner canred oddi ar 60 o belenni wrth adeiladu partneriaeth gref gyda’i gapten ar ôl i Forgannwg gyrraedd 125 am ddwy erbyn hanner ffordd drwy eu batiad.
Ond collodd Ingram ei wiced yn fuan wedyn, wrth yrru i’r ochr agored at Benny Howell oddi ar fowlio Dan Worrall am 44.
Collodd Morgannwg eu pedwaredd wiced pan gafodd Shaun Marsh ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio Dan Worrall am 57, a’r Cymry’n 150-4 yn y degfed pelawd ar hugain.
Er eu bod nhw’n dechrau llithro eto, llwyddodd David Lloyd a Chris Cooke i ailadeiladu’r batiad, er i Lloyd oroesi cyfle am ddaliad ar 34 heb fod allan, a’r ddau erbyn hynny wedi ychwanegu 66 at y cyfanswm.
Ond daeth eu partneriaeth i ben yn fuan wedyn, wrth i Cooke gael ei fowlio gan Howell am 39, a Morgannwg yn 225-5.
Wicedi di-ri’
Wnaeth Graham Wagg, wrth ddychwelyd i’r tîm, ddim para’n hir wrth iddo gael ei fowlio gan Dan Worrall am naw, a Morgannwg yn 238 am chwech gyda phum pelawd o’r batiad yn weddill.
Roedd David Lloyd yn ei ôl yn y pafiliwn yn fuan wedyn, ar ôl tynnu’r bêl at Jack Taylor ar y ffin oddi ar fowlio Chris Liddle am 45, a Morgannwg yn 242 am saith.
Cwympodd yr wythfed wiced o fewn dim o dro, wrth i Andrew Salter ddarganfod dwylo diogel Tom Smith yn sgwâr ar yr ochr agored oddi ar fowlio Chris Liddle am saith, a’r Cymry’n 248 am wyth. Roedden nhw’n 260 am naw pan gafodd Timm van der Gugten ei ddal ar y ffin ar ochr y goes wrth yrru’n syth i lawr corn gwddf Ian Cockbain oddi ar fowlio Chris Liddle am dri.
Ac roedd Morgannwg i gyd allan am 264 pan gafodd Marchant de Lange ei ddal ar y ffin ar ochr y goes gan George Hankins wrth fynd am ergyd fawr oddi ar fowlio Matt Taylor.
Ymateb y Saeson
Wrth gwrso 265, penderfynodd batwyr Swydd Gaerloyw, George Hankins a Chris Dent fynd amdani o’r dechrau’n deg. Daeth cyfle cynnar i Timm van der Gugten oddi ar ei fowlio’i hun, ond fe oroesodd y batiwr cyn parhau i glatsio yn y pelawdau agoriadol a’i dîm yn 66 heb golli wiced ar ôl deg pelawd.
Daeth ail gyfle am wiced oddi ar fowlio Michael Hogan, ond fe oroesodd Chris Dent wrth i’r bêl lanio rhwng y maeswyr a’r cyfanswm yn 68-0. Roedd y ddau fatiwr wedi cyrraedd eu hanner canred o fewn 19 pelawd, gan gyrraedd 119 heb golli wiced ar ôl ugain pelawd.
Daeth y wiced fawr gyda’r cyfanswm yn 147, wrth i Chris Dent gael ei ddal gan Marchant de Lange wrth yrru’n syth at y ffin oddi ar fowlio sbin Graham Wagg am 80.
Yr un oedd y cyfanswm erbyn hanner ffordd drwy’r batiad, 22 o rediadau’n fwy na’r Cymry ar yr un adeg, ond wedi colli pedair wiced yn llai.
Daeth George Hankins a Benny Howell ynghyd ar gyfer y bartneriaeth ail wiced a phrin roedd bowlwyr Morgannwg wedi achosi problemau iddyn nhw tan bod y troellwr Andrew Salter yn taro coes Hankins o flaen y wiced, ac yntau wedi sgorio 85 – ei sgôr gorau erioed.
Ond cyrhaeddodd Benny Howell ei hanner canred yn fuan wedyn wrth i’r Saeson agosáu at y fuddugoliaeth.
Bydd Morgannwg yn teithio i Taunton ddydd Sul i herio Gwlad yr Haf yn eu gêm nesaf yn y gystadleuaeth.