Fe fydd cartref Clwb Criced Morgannwg yn cael ei adnabod wrth yr enw Gerddi Sophia Caerdydd o hyn ymlaen ar ôl i bartneriaeth y clwb â’i noddwr SSE ddod i ben ar ôl deng mlynedd.
Mae’r enw newydd yn adlais o enw gwreiddiol y cae, Gerddi Sophia.
Mae Clwb Criced Morgannwg yn chwarae yno ers 1967, ond fe gafodd yr enw ei newid i’r Swalec SSE yn 2007.
Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Prif Weithredwr y clwb, Hugh Morris y byddan nhw bellach yn “defnyddio enw sy’n cysylltu Morgannwg â’i orffennol a’i leoliad o fewn caeau hardd Gerddi Sophia”.
Wrth ychwanegu ‘Caerdydd’ at yr enw, dywedodd Hugh Morris fod y clwb yn cryfhau ei berthynas â’r brifddinas a’r Cyngor.
Hanes y Swalec SSE
Ers i’r stadiwm gael ei hadeiladu, fe gynhaliodd nifer o gemau undydd a gemau prawf rhyngwladol, gan gynnwys Cyfres y Lludw rhwng Lloegr ac Awstralia yn 2009 a 2015.
Roedd hefyd yn gartref i nifer o gemau yn Nhlws Pencampwyr yr ICC yn 2013 a 2017, ac mae wedi cael enw da fel lleoliad ar gyfer gigs cerddoriaeth, gan ddenu’r Kaiser Chiefs a Simply Red i Gaerdydd.
Eleni, fe fydd y stadiwm yn cynnal dwy gêm undydd ryngwladol – rhwng Lloegr ac Awstralia ym mis Mehefin, a rhwng Lloegr ac India ym mis Gorffennaf.
Bydd hefyd yn cynnal wyth gêm ryngwladol rhwng 2020 a 2024, ac yn gartref i un o dimau dinesig y gystadleuaeth ugain pelawd newydd o 2020 ymlaen.
Chwilio am bartner newydd
Ychwanegodd Hugh Morris fod y clwb bellach yn chwilio am “brif bartner lleoliad newydd”.
“Rydym eisoes wedi denu diddordeb gan nifer o grwpiau ac rydym wedi cyffroi ynghylch y cyfle i fod yn bartner i sefydliad sy’n rhannu ein gwerthoedd a’n huchelgais fel clwb.”