Sgoriodd y batiwr llaw chwith o Awstralia, Shaun Marsh ganred yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf i Forgannwg ar ail ddiwrnod y gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste.
Mae’n ymuno â Matthew Elliott a Mark Cosgrove mewn criw dethol o Awstraliaid sydd wedi gwneud hynny. Bellach, mae deg chwaraewr wedi cyflawni’r nod mewn gemau dosbarth cyntaf i’r sir, a saith o’r rheiny yn y Bencampwriaeth.
Y rhestr yn llawn yw Mike Powell (v Prifysgol Rhydychen, Rhydychen, 1997), Brendon McCullum (v Swydd Gaerlŷr, Caerdydd, 2006), Younis Ahmed (v Prifysgol Rhydychen, Rhydychen, 1984), Javed Miandad (v Swydd Essex, Abertawe, 1980), Frank Pinch (v Swydd Gaerwrangon, Abertawe, 1921), Matthew Elliott (v Swydd Warwick, Edgbaston, 2000), Mark Cosgrove (v Swydd Derby, Caerdydd, 2006), Matthew Maynard (v Swydd Efrog, Abertawe, 1985) ac Alex Wharf (v Prifysgol Rhydychen, Rhydychen, 2000).
Gorffennodd Morgannwg ar 296-5, 60 o rediadau ar y blaen i Swydd Gaerloyw.
Sesiwn y bore
Dechreuodd batwyr agoriadol Morgannwg, Jack Murphy a Nick Selman, yr ail ddiwrnod ar 26-0, a llwyddo i oroesi am awr gynta’r bore. Ond fe gafodd Selman ei fowlio’n fuan wedyn am 28 gan Ryan Higgins, gyda’r bêl yn gwyro oddi wrtho, ac fe ddaeth yr Awstraliad Shaun Marsh i’r llain a’r sgôr yn 57 am un wiced.
70 am un oedd y sgôr pan ddaeth y chwaraewyr oddi ar y cae yn sgil y glaw am 12.40pm, a chymryd cinio cynnar.
Sesiwn y prynhawn
Dechreuodd y gêm unwaith eto am 2 o’r gloch, wrth i Shaun Marsh geisio cyfleoedd i gyflymu’r sgorio ar ddechrau’r prynhawn. Gyda Jack Murphy, llwyddodd e i lywio Morgannwg y tu hwnt i’r 100 mewn ychydig yn llai na 45 munud wedi’r egwyl.
Fe barhaodd i ymosod yn ystod y prynhawn ond fe gafodd Swydd Gaerloyw rywfaint o lwyddiant pan darodd Graeme van Buuren goes Jack Murphy o flaen y wiced a’r batiwr ar 47, a’r sgôr yn 124-2. Ond parhau i ymosod wnaeth Shaun Marsh, gan gyrraedd ei hanner canred cyntaf i Forgannwg yn y Bencampwriaeth oddi ar 98 o belenni.
Fe darodd Marsh nifer o ergydion i’r ffin yn hwyr yn y sesiwn i symud yn ei flaen i 79 heb fod allan, a Morgannwg yn 194-2 erbyn amser te. Mae Kiran Carlson wedi sgorio 28 heb fod allan.
Y sesiwn olaf
Fe wnaeth Marsh fwrw iddi ar ôl te, a chyrraedd ei ganred cyntaf yn y Bencampwriaeth i Forgannwg oddi ar 171 o belenni.
Ond daeth ei fatiad i ben ar 111, wrth iddo gael ei ddal ar y ffin gan Ryan Higgins wrth geisio tynnu pelen gan Graeme van Buuren. Roedd yr is-gapten newydd, Chris Cooke ac Aneurin Donald wedi ychwanegu 24 at y cyfanswm pan gafodd Donald ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio Ryan Higgins am 27 tua diwedd y dydd.
Cooke a David Lloyd oedd wrth y llain ar y diwedd wrth i Forgannwg orffen ar 296-5, ar y blaen i Swydd Gaerloyw o 60 o rediadau.