Mae digon o amser o hyd i gricedwyr Morgannwg frwydro am le yn y tîm cyn dechrau’r tymor sirol, yn ôl prif hyfforddwr y sir, Robert Croft.
Fe fyddan nhw’n herio tîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC ar y Swalec ddydd Gwener, a’r tîm hwnnw’n gyfuniad o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Met Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.
Ond yn wahanol i’r arfer, nid gêm dosbarth cyntaf mo hwn, gan fod rheolau Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn nodi mai dwy gêm yn erbyn y siroedd y gall y myfyrwyr eu chwarae – mae Prifysgolion Caerdydd yr MCC eisoes wedi herio Swydd Gaerloyw a Swydd Hampshire yn ddiweddar.
Fe fu Morgannwg ar daith yn Dubai yn ddiweddar, ac roedd y cyfle i herio Swydd Surrey a Swydd Gaerhirfryn mewn gemau undydd a phedwar diwrnod yn welliant ar eu paratoadau o’i gymharu â thymhorau blaenorol, yn ôl Robert Croft.
“Roedd e’n meddwl bo ni’n barod yn gynharach nag arfer ar gyfer gemau. Yn ddiweddar, dydyn ni ddim wedi cael edge caled mewn cystadlaethau ar ddechrau’r tymor, so mae hwnna’n beth positif.”
Cyfle i’r to iau
Yn dilyn ymddeoliad Jacques Rudolph a phenderfyniad Colin Ingram i ganolbwyntio ar griced undydd yn unig y tymor hwn, mae cyfle i rai o’r batwyr ifainc gamu i’r bwlch.
Mae Kiran Carlson, 19 o Gaerdydd, eisoes wedi taro canred (106 yn erbyn Swydd Gaerhirfryn) wrth i Connor Brown sgorio hanner canred yn yr un batiad.
Ac mewn gemau undydd, mae’r chwaraewr amryddawn David Lloyd eisoes wedi plesio gyda’r bat, gan sgorio 82 yn erbyn Swydd Gaerloyw.
Yn ôl Robert Croft, ei obaith yw y gall rhai o’r chwaraewyr ifainc arwain y ffordd i’r batwyr y tymor hwn.
“Nid dim ond y chwaraewyr ifainc, ond ry’ch chi’n gobeithio [gwthio] yr holl chwaraewyr.
“Dw i’n hapus gyda’r gwaith paratoi. Fel bob tro, ry’ch chi’n gobeithio troi’r paratoi mewn i berfformiadau, ond fyddwn ni ddim yn gwybod nes bod y gystadleuaeth yn dechrau.”
Mae tymor sirol Morgannwg yn dechrau gyda gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste ar Ebrill 20, ac felly gallai’r gêm yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC fod yn allweddol i rai chwaraewyr ar y cyrion.
“Mae’r bois sy’ ddim yn chwarae ar hyn o bryd wedi cael eu hannog i weithio’n galed ar eu gêm, a defnyddio pob cyfle i blesio ac i wthio am le.”
Strategaeth
Yn ôl Robert Croft, fe fydd disgwyl i’r chwaraewyr sy’n cael eu dewis ddilyn strategaeth y gêm pedwar diwrnod er mwyn ceisio osgoi’r dechreuadau siomedig yn y gystadleuaeth dros y tymhorau blaenorol.
“Mae’n eitha’ amlwg nawr sut ry’n ni eisiau chwarae’r gêm pedwar diwrnod, ry’n ni eisiau pobol [yn y tîm] sy’n gwneud beth y’n ni’n gofyn iddyn nhw, wir.”
Ond mae’r tîm ar y cyfan wedi plesio’r prif hyfforddwr, sy’n awyddus i ganmol “gwaith tîm ac ymroddiad” yr holl garfan.
“Ie, bydd rhai chwaraewyr wedi sgorio mwy o rediadau neu wedi cipio mwy o wicedi, ond mae gwaith tîm ac ymroddiad pawb wedi bod yn wych.”
Fe fydd y bowlwyr cyflym Timm van der Gugten a Marchant de Lange ar gael i Forgannwg, ond fydd y batiwr tramor o Awstralia, Shaun Marsh ddim ar gael oherwydd problemau’n ymwneud â’i ddogfennau teithio.
Ychwanegodd Robert Croft: “Os yw pawb yn ffit, byddwn ni’n dewis tîm eitha’ cryf i chwarae. Efallai y byddwn ni’n edrych ar gwpwl o opsiynau gwahanol eto.
“Mae [y capten] Michael [Hogan] a fi yn agos i ddewis ein tîm ni, ond mae dal amser i bobol wthio am le.”