Mae gobeithion tîm criced Iwerddon o gyrraedd Cwpan y Byd yn fyw o hyd ar ôl iddyn nhw drechu’r Alban o 25 o rediadau yn Harare yn Zimbabwe.

Fe fyddai buddugoliaeth i’r Albanwyr yn golygu eu bod hwythau gam yn nes at gymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth yng Nghymru a Lloegr hefyd.

Gall yr Alban gyrraedd y gystadleuaeth drwy guro India’r Gorllewin yn eu gêm olaf yn rownd y chwech olaf ddydd Mercher.

Fe fydd rhaid i Iwerddon guro Afghanistan a dibynnu ar ganlyniadau eraill er mwyn cymhwyso.

Manylion y gêm Geltaidd

Tarodd Andy Balbirnie 105 oddi ar 146 o belenni wrth i Iwerddon sgorio 271-9 ar ôl cael eu gwahodd i fatio’n gyntaf.

Sgoriodd Kyle Coetzer 61 oddi ar 70 o belenni i’r Alban i osod y seiliau cyn iddyn nhw golli pedair wiced am ugain rhediad i’w gadael nhw’n 132-6.

Ychwanegodd Richie Berrington 44 a Safyaan Sharif 34 at y cyfanswm cyn i Boyd Rankin gipio’r wiced olaf i Iwerddon, a gorffen y gêm gyda phedair wiced am 63.

Roedd yr Alban i gyd allan am 246 gyda 14 o belenni’n weddill o’r gêm.