Fe fydd dau ddarlun o un o fawrion y byd criced yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn ddydd Sadwrn, a’r arian yn mynd i Glwb Criced Pontypridd.
Cafodd y darluniau o Syr Donald Bradman eu rhoi i gyn-gricedwr Morgannwg, y diweddar Bernard Hedges rai blynyddoedd yn ôl gan yr artist Douglas Davies. Roedd yntau’n gapten ar Glwb Criced Y Bont-faen ac roedd e wedi magu cyfeillgarwch â’r cricedwr mwyaf yn hanes Awstralia.
A nawr, mae Stephen Hedges, mab Bernard, yn gwerthu’r eitemau mewn ocsiwn yng Nghaerlŷr. Ei obaith yw y bydd yr elw’n gallu helpu Clwb Criced Pontypridd, clwb tref enedigol ei dad.
Y darluniau
Cafodd y darlun cyntaf ei greu â phensel ar gyfer pen-blwydd Syr Donald Bradman yn 80 oed. 16 Ionawr, 1986 yw’r dyddiad ar y darlun, ac fe gafodd ei lofnodi gan y cricedwr ei hun.
Yn ôl yr arwerthwr Tim Davidson o Nottingham, mae e mewn cyflwr da iawn, ac mae disgwyl iddo gael ei werthu am £30-£50.
Pris tebyg sydd yn cael ei gynnig ar gyfer yr ail ddarlun, a gafodd ei greu yn 1984 ac yn nodi i’r darlun gael ei lofnodi ar ôl i Syr Donald Bradman gael strôc. Mae hwn mewn cyflwr da iawn hefyd, yn ôl yr arwerthwr.
Yr ocsiwn
Mae’r ddau ddarlun ymhlith 383 o eitemau sy’n cael eu gwerthu yn ocsiwn cymdeithas y Cricket Memorabilia Society yng nghae Grace Road yng Nghaerlŷr ddydd Sadwrn. Ymhlith yr eitemau eraill mae ffotograffau a llyfrau sydd wedi’u llofnodi.
Wrth drafod sut y cafodd Bernard Hedges y darluniau gan Douglas Davies, dywedodd Stephen Hedges wrth golwg360: “Roedd e’n arfer ymweld â Dad yn y tŷ yn Newton [yn Abertawe[ ac fe wnaeth e jyst roi’r ddau ddarlun hyn iddo fe.
“Fe wnaeth Dad eu rhoi nhw i fi, ac maen nhw wedi bod gyda fi yn y tŷ ers hynny, a dw i erioed wedi gwneud unrhyw beth gyda nhw.”
Ac fel yr eglura, doedd e ddim yn bwriadu eu cadw nhw ac felly’n dymuno iddyn nhw gael eu gwerthu fel y byddai Clwb Criced Pontypridd yn gallu elwa o’r arian.
“Ro’n i bob amser yn meddwl mai un o’r pethau mwya’ caredig y gallwn i ei wneud oedd defnyddio’r arian a fyddai’n cael ei godi o’r gwerthiant ar gyfer [Clwb Criced] Pontypridd. Dyna fy mwriad.
“Fyddan nhw ddim yn torri’r banc. Mae gan bob un bris cadw o £30-£50 felly dyna lle maen nhw’n gobeithio dechrau’r ocsiwn. Bydda i’n mynd gan fod gyda fi gryn ddiddordeb i weld sut mae’n gweithio ac i weld yr eitemau drosof fi fy hun.
“Gobeithio y bydd yn codi rywfaint, a bydda i fwy na thebyg yn ychwanegu arian ato a’i gyflwyno i’r clwb am beth bynnag maen nhw’n gallu defnyddio’r arian ar ei gyfer.”