Un o arwyr hanesyddol Clwb Criced Morgannwg, Alan Jones, yw Llywydd newydd Orielwyr San Helen, y clwb cefnogwyr sy’n sicrhau dyfodol criced sirol yn y De-orllewin.
Mae cyn-gapten a phrif hyfforddwr y sir, sy’n Gymro Cymraeg o Abertawe, yn olynu un arall o feibion yr ardal, y diweddar Don Shepherd a fu farw y llynedd.
Dywedodd cadeirydd a sylfaenydd yr Orielwyr, John Williams mai Alan Jones oedd y dewis “naturiol” i fod yn Llywydd, ac yntau’n allweddol yn y digwyddiadau a arweiniodd at ei sefydlu yn 1972.
Fe hefyd yw Llywydd y sir.
‘Gwerthfawrogi’
Fe fu John Williams yn cofio am sefydlu’r Orielwyr adeg gêm yn erbyn Swydd Northamptom yn San Helen Abertawe.
Bryd hynny, roedd y ddau agorwr, Alan Jones a Roy Fredericks wedi sgorio partneriaeth agoriadol o 330 a’r sgôr anferth wedi ennyn ymateb cyflym.
“Roedd aelodau oedd yn eistedd ar yr oriel wedi gofyn i ysgrifennydd Morgannwg, Wilf Wooller am ganiatâd i gasglu arian mewn bwced o amgylch y cae i ddangos ein gwerthfawrogiad,” meddai John Williams.
Sefydlwyd yr Orielwyr yn fuan wedyn, ac mae wedi codi dros £375,000 erbyn hyn i sicrhau bod criced dosbarth cyntaf yn cael aros yng ‘nghartref ysbrydol’ Morgannwg. Mae’r clwb hefyd yn trefnu teithiau i gemau oddi cartref y sir ledled Lloegr ers 42 o flynyddoedd.
‘Stori wych’
“Mae’n stori wych,” meddai John Williams.“Sgoriodd Alan dros 34,000 o rediadau dosbarth cyntaf ar leiniau oedd heb eu gorchuddio, a heb wisgo helmed!”
Dywedodd ei fod e “ar ben ei ddigon” fod Alan Jones wedi derbyn y gwahoddiad i fod yn Llywydd.
“Mae e wedi gwneud popeth dros y sir ac mae’n un o’r batwyr gorau y mae Morgannwg wedi eu cynhyrchu.”
‘Dilynwyr gwych’
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Alan Jones: “Rwy wrth fy modd eu bod nhw wedi gofyn i fi fod yn Llywydd.
“Dyw hi ddim yn hawdd i’r chwaraewyr chwarae oddi cartref ac mae gweld yr Orielwyr yno’n eu cefnogi nhw’n hwb i’r chwaraewyr. Mae’r gwaith nhw’n ei wneud ar gyfer criced yn San Helen yn rhagorol.
“Mae cael bod yn Llywydd Morgannwg a’r Orielwyr yn arbennig iawn.”