Mae batiwr Morgannwg, Shaun Marsh o fewn dau rediad i’w ganred ar ddiwedd trydydd diwrnod prawf olaf Cyfres y Lludw yn erbyn Lloegr yn Sydney.

Roedd wedi wynebu 207 o belenni mewn 265 o funudau, gan daro deg pedwar wrth i Awstralia gyrraedd 479-4. Roedd wedi adeiladu partneriaeth o 104 gyda’i frawd Mitchell – y tro cyntaf mewn gêm dosbarth cyntaf iddyn nhw wneud hynny.

Yn gynharach yn y dydd, roedd Usman Khawaja allan am 171.

Mae gan Awstralia fantais o 133 yn y batiad cyntaf, ar ôl bowlio Lloegr allan am 346.

Mae Shaun Marsh eisoes wedi sgorio canred yn ystod y gyfres, wrth daro 126 heb fod allan yn yr ail brawf yn Adelaide.

Mae Awstralia eisoes wedi ennill y gyfres, ac mae Lloegr yn ceisio osgoi colli o 4-0.

Diwrnod pinc

Roedd y trydydd diwrnod yn ddiwrnod pinc yn stadiwm yr SCG er cof am Jane McGrath, diweddar wraig y cyn-fowliwr cyflym Glenn McGrath.

Mae Sefydliad Jane McGrath yn nodi deng mlynedd eleni, ac yn codi arian at elusennau canser yn Awstralia.

Roedd gan y sefydliad nod o godi hyd at 1.3 miliwn o ddoleri ar y diwrnod, a’r dorf yn cael eu hannog i wisgo dillad pinc.

Cafodd capiau’r chwaraewyr eu cyflwyno i Glenn McGrath a phob un wedi’i arwyddo gan y chwaraewyr i’w rhoi mewn ocsiwn.