Scarlets 47–13 Dreigiau
Sgoriodd y Scarles saith cais mewn buddugoliaeth hynod gyfforddus yn erbyn y Dreigiau yn y gêm Guinness Pro14 yn Llanelli nos Wener.
Sicrhaodd y tîm cartref y pwynt bonws yn gynnar yn yr ail hanner ar Barc y Scarlets cyn mynd ymlaen i roi crasfa iawn i’r ymwelwyr.
Er i Arwel Robson gicio’r Dreigiau ar y blaen, dim ond un tîm a oedd ynddi wedi hynny.
Aeth y Scarlets ar y blaen toc wedi chwarter awr o chwarae pan groesodd James Davies wedi sgarmes symudol effeithiol o lein bump.
Croesodd Tom Prydie am ail ei dîm ddeuddeg munud cyn yr egwyl wedi cic fach daclus Steff Hughes ac roedd Bois y Sosban yn dechrau rheoli.
Sgoriodd Dan Jones drydydd cais y tîm cartref o dan y pyst yn fuan wedyn yn dilyn gwaith creu gwych Ken Owens a James Davies, 19-6 y sgôr wrth droi.
Deuddeg munud yn unig y bu rhaid aros wedi’r egwyl am y pedwerydd cais a’r pwynt bonws, Aled Davies yn croesi wedi bylchiad gwreiddiol Rhys Patchell.
Rhediad da gan Patchell a arweiniodd at bumed cais y Scarlets ddau funud yn ddiweddarach hefyd, symudiad tîm da y tro hwn yn arwain at sgôr syml i Aaron Shingler.
Dilynodd cais yr un i Will Boyde a Geraint Rhys Jones yn y chwarter olaf ac roedd patrwm cyfarwydd i’r ddau wrth i’r cyntaf ddeillio o sgarmes symudol a’r ail o rediad da arall gan Patchell.
Plymiodd Serel Pretorius drosodd am gais cysur i’r Dreigiau ond llawer rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets ar frig cyngres B y Pro14 tra mae’r Dreigiau yn aros yn chweched.
.
Scarlets
Ceisiau: James Davies 17’, Tom Prydie 28’, Dan Jones 31’, Aled Davies 52’, Aaron Shingler 54’, Will Boyde 62’, Geraint Rhys Jones 66’
Trosiadau: Dan Jones 18’, 32’, 52’, 55’, Rhys Patchell 64’, 67’
.
Dreigiau
Cais: Sarel Pretorius 74’
Trosiad: Angus O’Brien 75’
Ciciau Cosb: Arwel Robson 13’, Carl Meyer 38’