Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi pryd fydd eu gemau yn y Bencampwriaeth a chystadleuaeth 50 pelawd Royal London yn cael eu cynnal yn ystod tymor 2018.
Bydd y tymor dosbarth cyntaf yn dechrau ar Ebrill 20 wrth iddyn nhw deithio i Fryste i herio Swydd Gaerloyw yn y Bencampwriaeth, a bydd eu gêm gartref gyntaf yn y gystadleuaeth honno yn erbyn Swydd Gaint yn dechrau ar Fai 4.
Tra bydd y gemau yn y Bencampwriaeth yn cael eu cynnal drwy gydol y tymor, fe fydd y gystadleuaeth 50 pelawd yn cael ei chynnal rhwng Mai 18 a Mehefin 30.
Daw’r cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl i restr o’r gemau ugain pelawd gael ei chyhoeddi, a bydd y gystadleuaeth honno’n cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 6 ac Awst 17.
Abertawe a Llandrillo yn Rhos
Fe fydd y gêm 50 pelawd yn erbyn Swydd Hampshire ar Fehefin 3 yn cael ei chynnal ar gae San Helen yn Abertawe, ynghyd â’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby rhwng Mehefin 9-12.
Bydd taith flynyddol Morgannwg â Llandrillo yn Rhos rhwng Awst 29 a Medi 1 wrth iddyn nhw herio Swydd Warwick.
Bydd yr holl gemau cartref eraill yng Nghaerdydd.
O safbwynt caeau allanol y siroedd eraill, fe fydd Morgannwg yn teithio i Cheltenham ar gyfer gêm ugain pelawd yn erbyn Swydd Gaerloyw ar Orffennaf 27, ac yn erbyn Swydd Middlesex yn Richmond ar Awst 5.
Gemau’r Bencampwriaeth yn llawn (gemau cartref mewn ‘bold’)
Ebrill 20: Swydd Gaerloyw
Ebrill 27: Swydd Middlesex
Mai 4: Swydd Gaint
Mai 11: Swydd Gaerlŷr
Mehefin 9: Swydd Warwick
Mehefin 20: Swydd Derby
Mehefin 25: Swydd Northampton
Gorffennaf 22: Swydd Sussex
Awst 19: Swydd Durham
Awst 29: Swydd Warwick
Medi 4: Swydd Derby
Medi 10: Swydd Gaerloyw
Medi 18: Swydd Gaint
Medi 24: Swydd Gaerlŷr
Gemau Cwpan Royal London (50 pelawd)
Mai 18: Swydd Gaerloyw
Mai 20: Gwlad yr Haf
Mai 23: Swydd Hampshire
Mai 25: Swydd Gaint
Mai 30: Swydd Essex
Mehefin 1: Swydd Middlesex
Mehefin 3: Swydd Sussex
Mehefin 6: Swydd Surrey
Mehefin 14: gemau ail gyfle
Mehefin 17/18: rownd gyn-derfynol
Mehefin 30: rownd derfynol (Lord’s)