Mae Morgannwg ar ei hôl hi yn eu gornest yn erbyn Northamptonshire yn ail adran pencampwriaeth siroedd y Cwpan LV= wedi ail ddiwrnod y criced ddoe.
Aeth Morgannwg allan i fatio’n gyntaf, gan lwyddo i gyrraedd cyfanswm o 252 rhediad o 67 pelawd yn eu batiad cyntaf, ond fe atebodd Northants yn wych gyda chyfanswm o 434-4 ar ddiwedd y dydd a’u batiad heb orffen.
Heddiw, ar drydydd diwrnod y chwarae, mae Northamptonshire wedi datgan eu cyfanswm o 552 rhediad o 167 pelawd gydag un wiced yn weddill.
Dyw hi ddim yn argoeli’n dda i Forgannwg ar hyn o bryd felly, ac fe fydd angen batiad gwych heddiw a fory er mwyn cael siawns o fuddugoliaeth neu i ddal ymlaen er mwyn hawlio gêm gyfartal.
Stephen Peters oedd prif gymeriad ymgyrch fatio Northamptonshire wrth iddo lwyddo i basio marc y dau ganrif (204) am y tro cyntaf yn ei yrfa. Fe gafodd 21 ‘pedwar’ ac fe fu wrthi ar y bat am gyfanswm o 8 awr.
Fe lwyddodd James Harris, bowliwr ifanc Morgannwg, i dorri record hefyd. Efe yw’r bowliwr ieuangaf yn hanes y clwb i gyrraedd 200 o wicedi ‘first class’. Mae’n un ar hugain oed.