Bydd blaenasgellwr y Scarlets a Chymru, Rob McCusker, yn mynychu maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yfory.

Ac yntau ond newydd hedfan yn ôl o Wlad Pwyl, lle bu’n ymarfer gyda charfan ryngwladol Cymru, bydd McCusker yn teithio i ogledd Cymru er mwyn cymryd rhan mewn sesiynau ymarfer rygbi i blant a gynhelir gan Undeb Rygbi Cymru.

Fe ddaw Rob McCusker yn wreiddiol o ardal Wrecsam, ac fe fu’n chwarae i Glwb Rygbi’r Wyddgrug cyn ymuno â Llanelli, felly fe fydd plant a chefnogwyr yr ardal yn gyfarwydd iawn ag ef.

Yfory fe fydd McCusker yn bresennol rhwng dau a phedwar  ar y maes chwarae. Bydd ar gael i helpu rheoli’r sesiynau ymarfer ac i arwyddo ambell i lofnod wedi hynny hefyd.

Bydd y sesiynau rygbi yn parhau yn ystod yr wythnos ac mae cefnogwyr rygbi o bob oed yn cael eu hannog i’w mynychu er mwyn manteisio ar y cyfle i sgwrsio gyda Rob McCusker a chael tro ar ddangos rhai o’u sgiliau rygbi.

 “Mae’n wych fod Rob yn gallu dychwelyd i’r ardal i fynychu’r Eisteddfod. Yn enwedig i’r plant sy’n ei edmygu ac fydd eisiau efelychu ei lwyddiant o fewn y gamp,” meddai Rheolwr Datblygu Rygbi’r Gogledd, Austin Thomas.

Dyfarnwr y Mynydd

Mae’r dyfarnwr rhyngwladol, Nigel Owens, hefyd yn mynd i fod yn bresennol yn ystod yr wythnos gan iddo gael ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.

 “Roedd hi’n syndod i mi gael fy anrhydeddu fel yma, ond mae’n rhywbeth fyddai’n falch iawn ohono,” meddai Nigel Owens.

“Roedd rhaid meddwl yn galed iawn am enw barddol addas, ond yn y diwedd fe benderfynais fynd am ‘Dyfarnwr y Mynydd’ gan mod i’n ddyfarnwr ac yn dod o Fynydd Cerrig.”