James Harris
Derbyshire 360 a 380-8  Morgannwg 445

Fe fydd Morgannwg yn chwilio am ddwy wiced sydyn heddiw, ar ôl i Derbyshire ddod o farw’n fyw am yr ail dro yn eu gêm yn y Bencampwriaeth LV=.

Fe lwyddodd y Saeson i gyrraedd 380-8 ar ôl bod yn 22-4 ar un adeg, gyda’r batiwr ifanc o India’r Gorllewin, Chesney Hughes, yn cael 167, ei sgôr gorau erioed.

Chwaraewr ifanc arall, y bowliwr James Harris, oedd arwr Morgannwg, gyda phedair wiced am 82.

Mae pob un o’r tri batiad wedi dilyn yr un patrwm – chwalfa ac wedyn ail-afael. Ar hyn o bryd, mae Derbyshire ar y blaen o 295 gydag arwr eu batiad cynta’, Jon Clare, newydd ddod i’r llain.