Chris Ashling
Mae’n ymddangos y gallai’r glaw atal Morgannwg rhag ennill eu trydedd gêm yn olynol, yn erbyn Surrey yn yr Oval.

Dim ond dwsin o belawdau oedd yn bosib yn ystod ail fatiad Morgannwg yn y prynhawn ac fe fydd angen iddyn nhw sgorio’n gyflym iawn heddiw i fod â gobaith o ennill.

Hynny er bod y bowlwyr wedi gweithio’n effeithiol i roi pen ar fatiad cynta’ Surrey ar 284, 135 y tu ôl i Forgannwg.

Fe gafodd y bowliwr cyflym Chris Ashling ei ffigurau gorau eto i’r sir, gyda 4-47, roedd yna dair wiced i Will Owen hefyd ac fe lwyddodd y ddau droellwr, Cosker a Croft, i gymryd y ddwy wiced ola’ i orffen pethau.

Yn y cyfle a gawson nhw, fe sgoriodd Gareth Rees a Will Bragg yn gry’ gan gyrraedd 46-0, sy’n golygu bod Morgannwg 181 ar y blaen ar ddechrau’r diwrnod ola’ o’r pedwar.