Mae Swydd Northampton wedi curo Morgannwg o saith wiced yn eu gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd, a hynny ar ddiwrnod olaf a gafodd ei effeithio’n sylweddol gan y glaw.

Ar ôl dechrau’r diwrnod olaf ar 42-1, adeiladodd Rob Newton a Simon Kerrigan bartneriaeth o 90 am yr ail wiced yn ystod sesiwn y bore. Cyrhaeddodd Newton ei hanner canred oddi ar 99 o belenni, ac roedd e wedi taro saith pedwar ar ei ffordd i’r garreg filltir.

Ond fe ddaeth y bartneriaeth i ben pan gafodd Rob Newton ei fowlio gan Craig Meschede am 53, a’r sgôr yn 124-2. Cyrhaeddodd Simon Kerrigan ei hanner canred cyn cinio oddi ar 76 o belenni, gan gynnwys wyth pedwar.

Roedd Simon Kerrigan wedi sgorio 57 heb fod allan erbyn amser cinio, wedi’i gefnogi gan ei gapten, Alex Wakely (12 heb fod allan), a’r sgôr yn 149-2 a 69 o rediadau’n weddill i ennill. Ond cafodd Simon Kerrigan ei fowlio yn fuan ar ôl cinio am 62, gan efelychu ei sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed, a’i dîm yn 156-3.

62 o rediadau oedd eu hangen ar Swydd Northampton pan ddaeth Richard Levi i’r llain i ymuno â’i gapten ac roedden nhw’n benderfynol o geisio gorffen y gêm yn gyflym gyda’r glaw ar ei ffordd i’r brifddinas yn ystod y prynhawn, gan fod ganddyn nhw lygedyn o obaith o hyd o gael dyrchafiad i adran gyntaf y Bencampwriaeth y tymor nesaf.

Ond fe ddaeth y glaw trwm hwnnw pan oedd angen naw rhediad arnyn nhw. Roedd Richard Levi heb fod allan ar 31, a’r capten Alex Wakely heb fod allan ar 35.

Dychwelon nhw i’r cae toc cyn 3.30pm a chymerodd hi naw pelen yn unig mewn tair munud iddyn nhw gyrraedd y nod ac ennill y gêm.

Manylion

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 207 yn eu batiad cyntaf, a hynny ar ôl bod yn 102-6 ar un adeg. Cawson nhw eu hachub gan bartneriaeth o 97 rhwng Andrew Salter (59) a Craig Meschede (49), er i fowliwr cyflym Swydd Northampton gipio pum wiced am 60.

Ymatebodd Swydd Northampton drwy sgorio 310 yn eu batiad cyntaf, gyda Richard Levi yn taro 101  a Rob Newton yn sgorio 67. Ond fe gollon nhw eu saith wiced olaf am 70 rhediad yn unig, wrth i gapten Morgannwg, Michael Hogan gipio pedair wiced am 58. Roedd tair wiced i Marchant de Lange am 85, a dwy wiced i Lukas Carey am 75.

103 o rediadau ar ei hôl hi ar ddiwedd y batiad cyntaf, 320 oedd cyfanswm Morgannwg yn eu hail fatiad, diolch i gyfraniadau o 69 gan Chris Cooke a 44 gan Kiran Carlson. Roedd cyfres o bartneriaethau yng nghanol y batiad yn allweddol i Forgannwg. Serch hynny, dim ond 218 o rediadau oedd eu hangen ar yr ymwelwyr yn y pen draw, ac fe gyrhaeddon nhw’r nod yn ddi-drafferth yn pen draw.