Bydd Swydd Nottingham yn herio’r Birmingham Bears yn rownd derfynol cystadleuaeth y T20 Blast yn Edgbaston, ar ôl curo Swydd Hampshire o 23 o rediadau yn yr ail gêm gyn-derfynol.

Roedd y Birmingham Bears eisoes wedi sicrhau eu lle yn y rownd derfynol gyda buddugoliaeth o 11 o rediadau dros Forgannwg.

Cipiodd Harry Gurney dair wiced am 19 ac roedd tair wiced i Steven Mullaney am 22 wrth i Swydd Nottingham fowlio Swydd Hampshire allan am 146 wrth iddyn nhw gwrso 170 i ennill.

Manylion

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, sgoriodd Swydd Nottingham 169-7 yn eu hugain pelawd, wrth i Rikki Wessels sgorio 48 oddi ar 27 o belenni i osod y seiliau.

Tarodd e bum pedwar a dau chwech yn ei fatiad, ac fe sgoriodd Samit Patel 35 oddi ar 31 o belenni, gan gynnwys tri phedwar ac un chwech.

Ychwanegodd Dan Christian 24 at y cyfanswm oddi ar 12 o belenni, gan daro tri chwech.

Roedd dwy wiced yr un i Chris Wood (2-17) a’r troellwr Liam Dawson (2-36).

Wrth gwrso 170 i ennill a sicrhau lle yn y rownd derfynol yn erbyn y Birmingham Bears, collodd Swydd Hampshire y seren o Bacistan, Shahid Afridi oddi ar belen gynta’r batiad.

Tarodd y capten, James Vince 56 oddi ar 32 o belenni, ac roedd ei fatiad yn cynnwys pum pedwar a thri chwech.

Partneriaethau cynnar ddim yn ddigon

Partneriaethau oedd yr allwedd i lwyddiant Swydd Hampshire yng nghanol y batiad, wrth i’r capten ychwanegu 54 gyda Calvin Dickinson (27) am yr ail wiced, a 42 gyda Tom Alsop (20) am y drydedd wiced.

Ond collon nhw saith wiced am 47 rhediad wrth iddyn nhw fynd o 97-3 i 146 i gyd allan mewn saith pelawd.

Bydd y rownd derfynol rhwng Birmingham a Swydd Nottingham yn dechrau am 6.45pm.