Cafodd cefnogwyr pêl-droed y gogledd groeso cynnes i orsaf Caerdydd Canolog, gyda pherfformiad gan fand The Barry Horns.
Wrth i’r cefnogwyr lifo oddi ar y trên ar ddiwedd ei thaith o Gaergybi, roedd parti yn barod amdanyn nhw yng nghwmni band cefnogwyr pêl-droed Cymru i gynhesu’r gwaed cyn gêm Cymru v Awstria yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.
Fel “darlledwyr balch” pob gêm Cymru yn Rowndiau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018, bu S4C yn trefnu gyda’r Barry Horns i roi syrpreis i’r gogleddwyr gyda chymorth Trenau Arriva Cymru.
Gwyliwch y fideo yma:
Roedd y syrpreis yn rhan o’r cynnwrf cyn cic gynta’r gêm dyngedfennol yn erbyn Awstria, sydd ar gael yn rhad ac am ddim i gefnogwyr ar S4C, meddai Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C.
“Does dim llawer sy’n curo gêm ryngwladol gartref, ac roedden ni eisiau ychwanegu rhywbeth arbennig at ddiwrnod y cefnogwyr ar ddiwedd eu taith,” meddai.
“Mae’r Barry Horns yn gallu cychwyn parti yn unrhyw le, hyd yn oed mewn gorsaf drên ac rydan ni’n gobeithio fod y syrpreis wedi codi ysbryd y cefnogwyr yn barod am y gêm. Gobeithio hefyd y bydd y canlyniad yn rhoi rheswm i ddathlu yr holl ffordd adref i Gaergybi heno.”