Robert Croft (Llun: Clwb Criced Sir Forgannwg)
Y cyfnod clatsio oedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng Morgannwg a Birmingham yn rownd gyn-derfynol cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast, yn ôl prif hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft.
Collodd Morgannwg o 11 o rediadau’n unig yn Edgbaston y prynhawn yma, ond roedden nhw dan gryn bwysau drwy gydol y batiad ar ôl colli pedair wiced yn y chwe phelawd gyntaf wrth gwrso 176 i ennill.
O’i gymharu â 48-4, roedd y Birmingham Bears yn 65-1 ar ddiwedd eu cyfnod clatsio nhw, ar eu ffordd i 175-9.
Roedd ymdrech ddewr gan Andrew Salter ar ddiwedd y batiad wrth iddo fe sgorio 27 oddi ar 13 o belenni ond cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 164 yn y pen draw.
‘Hapus gyda’r ffeit’
Ar ddiwedd y gêm, dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft: “O’n i’n hapus gyda’r ffeit gan bob un o’r bois yn y diwedd. O’n ni’n agos iawn i ennill y gêm.
“Ond ar ôl y chwe phelawd gyntaf wrth fowlio a batio, o’n ni o dan bwysau. O’n nhw wedi chwarae’n well gyda’r conditions a gartre’, maen nhw’n gwybod y ffordd orau i chwarae ar y llain yma.
“Ond tasen ni ddim wedi colli cwpwl o wicedi yn y chwe phelawd gynta’, o’n i’n credu y byddai mwy o gyfle i ennill y gêm.
“Roedd un neu ddau o ddaliadau gwych ac ry’n ni’n gweld pethau fel’na lot nawr mewn gemau ugain pelawd. Pob lwc iddyn nhw yn y gêm nesa a gobeithio bod ein bois ifainc ni wedi dysgu rhywbeth o’r profiad hyn a gwneud yn siwr yn y dyfodol bo nhw’n ennill mwy o gemau fel hyn.”
Rhaid codi safonau
Er i Forgannwg berfformio’n well oddi cartref yn y gystadleuaeth hon eleni, dydy Robert Croft ddim yn credu y byddai ailadrodd eu perfformiadau eto y flwyddyn nesaf yn ddigon i sicrhau eu lle yn Niwrnod y Ffeinals.
Ychwanegodd: “Os y’n ni’n chwarae eto fel hyn flwyddyn nesa’, sai’n credu byddwn ni’n mynd i Ddiwrnod y Ffeinals achos mae’r safon yn y gemau ugain pelawd yn codi bob blwyddyn. Rhaid i ni baratoi’n well i godi safonau tymor nesa’.”
Colli wiced y capten yn allweddol
Roedd y capten Jacques Rudolph a’r chwaraewr amryddawn wedi adeiladu partneriaeth o 50 cyn i’r capten gael ei redeg allan mewn ffordd ryfedd.
Wrth aros ben draw’r llain, roedd e wedi ymlwybro allan o’i lain fatio a doedd e’n methu troi ar ei sawdl cyn i’r bêl daro’r wiced.
Yn ôl Robert Croft, roedd y wiced honno’n nodweddiadol o’r ffordd roedd Morgannwg wedi chwarae fel tîm.
“Dim ond dau rediad ar ei hôl hi oedden ni ar y pryd. Roedden ni’n dal ynddi ac roedd Jacques yn llifo a Graham Wagg yn adeiladu partneriaeth wych gyda fe.
“Ond ry’n ni’n aeddfedu fel tîm. Ry’n ni wedi dod nôl yn well ar ôl colli eleni nag y gwnaethon ni’r llynedd, pan wnaeth ein hyder ni chwalu fel plât ar lawr.
“Ro’n i’n hapus iawn gydag aeddfedrwydd y tîm eleni.”