Mae Morgannwg ar y blaen i Swydd Sussex o 152 o rediadau ar ddechrau trydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn Llandrillo yn Rhos.

Daeth yr ornest i ben yn gynnar ar ddiwedd ar ail ddiwrnod oherwydd golau gwael, ac roedd Morgannwg yn 126-6 ar y pryd ar ôl i Ollie Robinson gipio tair wiced am 29.

Dechreuodd Swydd Sussex yr ail ddiwrnod ddoe ar 79-3, 215 o rediadau y tu ôl i Forgannwg, oedd i gyd allan am 294 yn eu batiad cyntaf.

Dechrau gwael i’r Saeson

Bum pelen yn unig gymerodd hi i Forgannwg gipio’u wiced gyntaf ar ddechrau’r ail ddiwrnod, wrth i Ruaidhri Smith fowlio Gus Robson am 44. Fe fydden nhw wedi cipio ail wiced yn fuan wedyn pe bai Andrew Salter wedi dal ei afael ar y bêl yn y slip i waredu Luke Wright heb ei fod e wedi sgorio.

Ond fe ddaeth ail wiced i’r Albanwr yn fuan wedyn, wrth iddo fe fowlio’r batiwr gyda iorcer am bump, a’r sgôr yn 109-5.

Fe lwyddodd y Saeson i daro’n ôl i ryw raddau gyda chyfres o bartneriaethau tua gwaelod y rhestr fatio. Roedd Chris Nash wedi sgorio 42 erbyn iddo gael ei ddal yn y slip gan Aneurin Donald oddi ar fowlio Craig Meschede.

Ac fe gwympodd y seithfed wiced yn fuan wedyn wrth i Chris Jordan gael ei fowlio gan Lukas Carey, a’r sgôr yn 158-7.

Fe ddylai David Wiese fod wedi bod allan pan darodd Lukas Carey ymyl ei fat, ond ni chafodd y daliad ei roi i Tom Cullen. Ond fe gafodd y wicedwr ei ddaliad yr ail dro oddi ar fowlio’r capten Michael Hogan a’r sgôr yn 189-7.

Cyrhaeddodd y capten Ben Brown ei hanner canred oddi ar 57 o belenni ychydig cyn cinio wrth i’r Saeson ennill pwynt batio am gyrraedd 200.

Sesiwn y prynhawn

Ergyd wael oedd yn gyfrifol am Ollie Robinson yn colli ei wiced yn fuan ar ôl cinio, wrth iddo yrru’r bêl i lawr corn gwddf Lukas Carey oddi ar fowlio Craig Meschede, a’r sgôr yn 225-9.

Tarodd y Saeson yn ôl unwaith eto gyda phartneriaeth o 43 rhwng Ben Brown a Jofra Archer (27 heb fod allan), ond daeth y batiad i ben wrth i Brown gael ei fowlio gan Meschede am 77, a’r bowliwr yn gorffen gyda phedair wiced am 61. Gorffennodd Ruaidhri Smith gyda thair wiced am 64.

Batwyr Morgannwg yn siomi unwaith eto

Gyda mantais o 26 ar ddiwedd y batiad cyntaf, cafodd Morgannwg y dechrau gwaethaf posib i’w hail fatiad wrth golli’r Awstraliad ifanc Nick Selman am 15, wrth iddo gael ei fowlio gan Ollie Robinson, a Morgannwg yn 26-1.

Erbyn amser te, roedden nhw’n 60-1, gyda mantais o ddim ond 86 o rediadau.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Cymry ar ôl te wrth iddyn nhw golli pedair wiced mewn naw pelawd am ddim ond 21 o rediadau.

Cafodd Owen Morgan ei ddal gan Chris Jordan oddi ar fowlio Ollie Robinson am 17, a’r sgôr yn 69-2.

Roedd Jack Murphy yn gyndyn o adael y cae pan benderfynodd y dyfarnwyr ei fod e wedi taro’r bêl ar ei ffordd i’r wicedwr, ond roedd tystiolaeth yn ddiweddarach yn dangos nad oedd e wedi cyffwrdd â’r bêl oddi ar fowlio Chris Jordan.

Dilynodd Aneurin Donald yn fuan wedyn gyda’r sgôr yn 76-4, wrth iddo gael ei ddal yn y slip gan Gus Robson oddi ar fowlio Jordan. Roedden nhw’n 90-5 pan gafodd Kiran Carlson ei ddal gan Ben Brown oddi ar fowlio Ollie Robinson am bump i gwblhau cyfnod cythryblus i Forgannwg.

Erbyn i Andrew Salter gael ei ddal gan y wicedwr oddi ar fowlio Jofra Archer, roedd y Cymry wedi colli pum wiced am 35 o rediadau mewn 12 pelawd.

Golau’n achub Morgannwg

Ond roedd yr awyr dros gae Llandrillo yn Rhos yn dechrau tywyllu toc ar ôl 5.30 ac fe ddaeth y gêm i ben am y dydd â’r sgôr yn 126-6.

Craig Meschede (19) a Tom Cullen (11) sydd wrth y llain i Forgannwg, fydd yn gobeithio y gall y ddau ailadrodd eu partneriaeth batiad cyntaf o 108 i gynnig llygedyn o obaith i’r Cymry fel nad ydyn nhw’n colli gyda diwrnod a mwy yn weddill o’r ornest.

Sgorfwrdd