Wrth i Jack Murphy o Greseli yn Sir Benfro gynrychioli Morgannwg yn Llandrillo yn Rhos am y tro cyntaf, mae ei dîm lleol yng nghanol ffrae yn dilyn gêm yn erbyn Caeriw.

Mae Clwb Criced Creseli wedi cyhuddo’u gwrthwynebwyr o “golli’n fwriadol” wrth iddyn nhw ill dau herio’i gilydd am dlws Adran Gyntaf Clybiau Criced Sir Benfro.

Ac mae’r ffrae wedi denu sylw’r newyddiadurwr a chefnogwr criced blaenllaw, Piers Morgan:

Roedd tîm Caeriw wedi cau eu batiad ar 18-1 er mwyn atal Creseli rhag ennill pwyntiau bonws, oedd yn golygu na fyddai ganddyn nhw ddigon o bwyntiau ar ddiwedd y gêm er mwyn enill y gynghrair.

Enillodd Creseli y gêm yn y pen draw, ond Caeriw enillodd y gynghrair ar ôl dechrau’r diwrnod 21 o bwyntiau ar y blaen i’w gwrthwynebwyr – dim ond 20 pwynt oedd ar gael i Greseli ar ôl penderfyniad dadleuol eu gwrthwynebwyr.

Pwyntiau bonws

Batiodd Caeriw am 15 o belenni cyn cau eu batiad ar 18-1, ac fe gyrhaeddodd Creseli y nod ar ôl dwy belawd.

Mae pwyntiau bonws ar gael am bob dwy wiced sy’n cael eu cipio mewn batiad, ac un pwynt bonws ar gael i’r tîm sy’n batio bob 40 o rediadau maen nhw’n eu sgorio hyd at gyfanswm o 200.

‘Yn groes i ysbryd y gêm’

Dydy Caeriw ddim wedi torri cyfreithiau’r gêm, ond maen nhw wedi cael eu cyhuddo o weithredu yn groes i ysbryd y gêm. Ymhlith y rhai sydd wedi eu beirniadu mae cyn-gapteiniaid Morgannwg, Steve James a Mark Wallace.

Ond wrth i’r stori fynd ar led drwy wledydd Prydain, mae’r newyddiadurwr a chefnogwr criced blaenllaw, Piers Morgan hefyd wedi cael dweud ei ddweud.

Ymateb Creseli

Mae lle i gredu y bydd penaethiaid y gynghrair yn trafod y mater nos Fercher ond yn y cyfamser, mae Clwb Criced Creseli wedi cyhoeddi datganiad ar eu tudalen Twitter.

Dywedodd llefarydd: “Rydym yn amlwg yn teimlo yn siomedig o beidio â gallu chwarae gêm go iawn i benderfynu pwy sy’n ennill yr Adran Gyntaf.

“Ar ôl curo Caeriw yn y gynghrair a chwpan y pentrefi, roedden ni’n teimlo’n hyderus y gallen ni wneud hynny.

“Wrth gynnal y dafl, penderfynodd ein capten faesu gan ein bod ni’n teimlo mai dyna’r ffordd orau o ennill y gêm gyda phopeth mor agos.

“O feddwl y byddai Caeriw am ein curo ni yn y ffordd briodol a dangos i bawb mai nhw, yn wir, yw’r goreuon, roedd eu penderfyniad i gau’r batiad a cholli’n fwriadol yn groes i’w teitl nhw yn bencampwyr y sir.”

Ychwanegodd y llefarydd mai penderfyniad i benaethiaid y gynghrair fyddai a yw Clwb Criced Caeriw yn euog o drefnu canlyniad gêm ymlaen llaw.

Dydy Clwb Criced Caeriw ddim wedi ymateb hyd yn hyn.