Mae gemau coffa yn cael eu cynnal heddiw i ddau o chwaraewyr Clwb Criced Pontarddulais.
Bydd tîm Jamie Bishop yn herio tîm Barry Lloyd mewn dwy gêm 10 pelawd yr un, yn dechrau am 3 o’r gloch. Bydd y timau’n gyfuniad o chwaraewyr oedd wedi chwarae yn yr un tîm â’r ddau.
£5 yw’r pris mynediad i oedolion, a £3 i blant dan 16 oed – ond mae mynediad i’r gemau i blant yn rhad ac am ddim.
Bydd barbeciw, cystadlaethau ac adloniant i blant ar gael ar y diwrnod, ynghyd ag ocsiwn am 6 o’r gloch, ac adloniant am 7.30pm.
Bydd yr holl arian yn mynd at elusen Tŷ Hafan a chanolfan gofal Garngoch.
Barry Lloyd
Bu farw Barry Lloyd yn 63 oed fis Rhagfyr y llynedd yn dilyn salwch byr.
Ymunodd y troellwr â Morgannwg yn 1970, cyn mynd ymlaen i gynrychioli’r MCC yn 1971 a 1972.
Fe gipiodd e 311 o wicedi i Forgannwg yn ystod gyrfa a barodd tan 1984.
Ar ôl ymddeol o’r gêm broffesiynol, fe dreuliodd gyfnodau gyda Chastell-nedd a Phontarddulais yng Nghynghrair De Cymru, ac fe gynrychiolodd dîm Siroedd Llai Cymru tan 1996.
Ei ferch Hannah oedd y cricedwr cyntaf o Gymru i gynrychioli Lloegr yng Nghaerdydd.
Jamie Bishop
Bu farw cyn-fatiwr agoriadol Morgannwg, Jamie Bishop yn sydyn yn 44 oed yn 2015.
Roedd Bishop, oedd yn fatiwr llaw chwith ac yn wicedwr achlysurol, yn aelod o garfan Morgannwg rhwng 1989 a 1994, gan chwarae mewn un gornest yn unig yn erbyn Prifysgol Rhydychen yn 1992, gan daro 51.
Roedd hefyd yn aelod o garfan Siroedd Llai Cymru.