“Gêm i Don Shepherd” oedd buddugoliaeth Morgannwg dros Swydd Gaerlŷr yn rownd wyth olaf cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yng Nghaerdydd, yn ôl y prif hyfforddwr Robert Croft.
Drannoeth y fuddugoliaeth dros Swydd Middlesex nos Wener ddiwethaf – canlyniad oedd wedi sicrhau gêm gartref i Forgannwg nos Fercher – daeth y newyddion trist bod Don Shepherd, y cyn-chwaraewr a sylwebydd oedd yn un o fawrion y clwb, wedi marw’n 90 oed.
Cafodd munud o gymeradwyaeth ei chynnal er cof amdano fe nos Fercher, ac fe wisgodd y chwaraewyr fandiau duon am eu breichiau ar gyfer y gêm.
Ar ôl y fuddugoliaeth o naw wiced, dywedodd Robert Croft: “Gêm i Don Shepherd oedd hi heno.
“O golli Don, roedd pawb yn teimlo’n siomedig iawn. Ond mae e wedi rhoi llawer o ysbryd i ni dros y blynydde, a fe yw arwr pawb sy wedi dilyn Morgannwg dros y blynydde, a hefyd yn y dyfodol.
“Mae’r dyn yn ymgorffori popeth sy’n dda am fod yn gricedwr Morgannwg, ar y cae ac oddi ar y cae.
“Mae e wedi’n cefnogi ni, ein hysbrydoli ni, ein helpu ni ac wedi gwneud Clwb Criced Morgannwg yr hyn yw e heddiw. Bydd ei ysbryd e’n parhau.”
Mwynhau
Er y tristwch sy’n debygol o barhau am beth amser, mae Robert Croft a’i chwaraewyr yn benderfynol o fwynhau’r llwyddiant sy’n eu gweld nhw’n teithio i Edgbaston ar Fedi 2.
Byddan nhw’n ymuno â Swydd Hampshire ar Ddiwrnod y Ffeinals, gyda’r ddau dîm arall yn cael eu penderfynu nos Iau a nos Wener.
Ar ôl y fuddugoliaeth, fe fydd sylw Morgannwg yn troi at y paratoadau ar gyfer y diwrnod mawr, ond am y tro, mwynhau yw’r bwriad, yn ôl Robert Croft.
“Ni’n mynd i fwynhau. Ond ar ôl heno, ni’n mynd i baratoi i fynd i Edgbaston.
“Y peth pwysig i fi fel hyfforddwr yw bo ni’n chwarae’n dda. Os y’n ni’n chwarae’n dda, mae cyfle i ni ennill gemau lan fynna, pwy sy’n gwybod?
“Ond y peth pwysig yw canolbwyntio ar fel y’n ni’n chwarae.”