Fe fydd Morgannwg yn wynebu eu cyn-brif hyfforddwr Matthew Maynard a’u cyn-gapten Jim Allenby heno wrth iddyn nhw groesawu Gwlad yr Haf i Gaerdydd ar gyfer y gêm ugain pelawd yn y T20 Blast (7 o’r gloch).
Hon yw’r gyntaf o ddwy gêm i’r Cymry dros y penwythnos, wrth iddyn nhw deithio i Chelmsford i herio Swydd Essex brynhawn yfory.
Dydy’r naill wrthwynebydd na’r llall ddim wedi dechrau’n dda yn y gystadleuaeth, ond dydy capten Morgannwg, Jacques Rudolph ddim yn credu y bydd hynny’n cael fawr o effaith ar y canlyniadau dros y ddeuddydd nesaf.
“Dw i wedi edrych ar ambell sgôr ond dw i ddim yn talu fawr o sylw iddyn nhw. Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig dod i mewn i’r gêm gan ddefnyddio’r rysait fuddugol a’n strwythur ein hunain a’n bod ni’n mynd o gwmpas ein pethau ein hunain.”
Hanes o blaid Morgannwg
Mae gan Forgannwg record dda yn erbyn Gwlad yr Haf, ac maen nhw wedi ennill eu tair gêm ugain pelawd ddiwethaf yn eu herbyn, ac mae Jacques Rudolph yn hyderus o ymestyn y record honno.
“Dyw e ddim yn fater o sefyll yn ôl yn eu herbyn nhw. Byddwn ni’n eithaf ymosodol yn y ffordd y byddwn ni’n mynd o gwmpas ein busnes.
“Os gallwn ni gael dwy fuddugoliaeth dros y penwythnos, bydd hynny’n bwysig o safbwynt momentwm ar gyfer gweddill y gystadleuaeth.”
Morgannwg oedd yn fuddugol yn eu gêm yn erbyn Gwlad yr Haf yn y gystadleuaeth y llynedd, wrth i Colin Ingram gipio tair wiced am 20. Roedden nhw’n fuddugol yn 2015 hefyd o dan ddull Duckworth-Lewis yn dilyn cyfnodau hir o law, a daeth yr ornest i ben yn gyfartal yn 2014 oherwydd y glaw.
Morgannwg oedd yn fuddugol o naw wiced yn 2013 wrth i Graham Wagg gipio tair wiced am 29.
Yn eu 26 gêm yn erbyn ei gilydd yn y T20 Blast, mae Morgannwg wedi ennill 10 ohonyn nhw, Gwlad yr Haf yn fuddugol 13 o weithiau, a thair gêm wedi gorffen heb ganlyniad.
Mae Gwlad yr Haf wedi chwarae yn erbyn Morgannwg fwy o weithiau nag unrhyw sir arall yn hanes y gystadleuaeth, ac fe gafodd record byd ei gosod yn 2011 pan gipiodd y troellwr llaw chwith Arul Suppiah y chwe wiced olaf am bum rhediad. Does neb wedi curo’r record honno eto.
Cystadleuaeth 2017
Collodd Morgannwg eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth eleni o 22 o rediadau yn erbyn Swydd Hampshire, ond fe gawson nhw fuddugoliaeth o 18 o rediadau yn erbyn Swydd Sussex yng nghastell Arundel yn eu gêm ddiwethaf, wrth i Colin Ingram daro canred oddi ar 46 o belenni.
Mae’r perfformiad hwnnw gan Colin Ingram wedi’i osod ymhlith y 10 chwaraewr mwyaf gwerthfawr yn y gystadleuaeth, yn ôl rhestr Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA).
Ychwanegodd Jacques Rudolph: “Dw i’n credu, o edrych yn ôl ar y gêm [yn erbyn Swydd Sussex] ei fod yn berfformiad cyflawn gan y tîm.
“Fe gawson ni bartneriaethau da gyda’r bat, oedd wedi gosod y seiliau, ond yn amlwg fe chwaraeodd Colin yn rhyfeddol ac fe gafodd e’r canred gorau welwch chi.
“Fel uned fatio ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn bell o le’r hoffen ni fod. O ran y bowlio, dw i’n credu ein bod ni wedi bowlio’n dda o dan bwysau, yn enwedig Colin [Ingram] a Michael Hogan.”
Y timau
Dydy seren Gwlad yr Haf, Corey Anderson ddim ar gael oherwydd anaf i’w gefn, ac mae Michael Leask wedi’i ddewis yn ei le.
Does dim newid yng ngharfan Morgannwg.
Carfan Morgannwg: D Lloyd, A Donald, J Rudolph (capten), C Ingram, K Carlson, C Cooke, G Wagg, C Meschede, A Salter, O Morgan, M de Lange, T van der Gugten, M Hogan
Carfan Gwlad yr Haf: J Allenby (capten), J Myburgh, S Davies, J Hildreth, P Trego, A Hose, T Banton, R van der Merwe, L Gregory, C Overton, J Davey, T Groenewald, M Waller, M Leask