Un o fawrion Pacistan, Shahid Afridi wedi trechu Morgannwg gyda'r bêl (Llun: golwg360)
Roedd partneriaeth o 95 rhwng Lewis McManus (59) a George Bailey (37 heb fod allan), ynghyd â ffigurau o bedair wiced am 20 mewn pedair pelawd gan y troellwr coes Shahid Afridi yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth o 22 rhediad i Swydd Hampshire dros Forgannwg yng Nghaerdydd heno.

Adeiladodd capten yr ymwelwyr, James Vince bartneriaeth o 52 gyda Rilee Rossouw, gyda’r ddau yn taro deg pedwar rhyngddyn nhw yn y tair pelawd cyntaf. Ond tarodd Michael Hogan yn ôl i dorri’r bartneriaeth ar 52 wrth i’r wicedwr Chris Cooke gael y daliad oddi ar ymyl bat Vince, oedd wedi sgorio 31 oddi ar 15 o belenni, gan gynnwys saith pedwar.

Arafodd cyfradd sgorio’r ymwelwyr ar ôl colli’r wiced, ac fe arweiniodd hynny at ail wiced, wrth i Rilee Rossouw gael ei fowlio gan Hogan am 18 yn y chweched pelawd, a Swydd Hampshire yn gorffen y cyfnod clatsio ar 59-2.

Cwympodd trydedd wiced o fewn dim o dro, wrth i Michael Carberry daro Marchant de Lange i’r wicedwr Cooke am bedwar, wrth i Swydd Hampshire lithro i 59-3 yn y seithfed pelawd. Dilynodd Sean Ervine dair pelawd yn ddiweddarach, wrth iddo fe daro’r bêl yn syth i Marchant de Lange ar y ffin ar yr ochr agored oddi ar fowlio’r troellwr Andrew Salter am chwech, a Swydd Hampshire yn 70-4 hanner ffordd trwy’r batiad.

Ond fe wellodd pethau iddyn nhw diolch i George Bailey a Lewis McManus, oedd wedi eu harwain nhw i 102-4 ar ôl 15 pelawd, cyn i McManus daro dau chwech yn olynol oddi ar y troellwr coes Colin Ingram yn yr unfed belawd ar bymtheg. Daeth chwech a phedwar arall oddi ar Marchant de Lange yn y belawd ganlynol wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 128-4.

Cafodd y bartneriaeth o 95 ei thorri gan ddaliad campus Colin Ingram ar y ffin ar yr ochr agored oddi ar fowlio Graham Wagg, wrth i Swydd Hampshire orffen eu batiad ar 167-5, a Michael Hogan yn gorffen gyda dwy wiced am 25.

Batiad Morgannwg

Dechreuodd Morgannwg eu batiad nhw yn y modd gwaethaf posib, wrth iddyn nhw golli dwy wiced yn y belawd gyntaf am dri rhediad. Rhoddodd David Lloyd ddaliad i Sean Ervine yn y slip oddi ar fowlio Reece Topley cyn i Colin Ingram yrru’r bêl at Gareth Berg yn y cyfar.

Cryfhaodd Morgannwg fymryn i gyrraedd 43-2 erbyn diwedd y cyfnod clatsio cyn i Shahid Afridi gipio dwy wiced mewn dwy belen, gan fowlio Aneurin Donald am 25 cyn canfod coes Kiran Carlson o flaen y wiced heb sgorio, a Morgannwg yn 44-4.

Jacques Rudolph oedd y pumed batiwr allan – trydedd wiced Shahid Afridi – wrth iddo fe yrru’r bêl at y capten James Vince am 18 yn y nawfed pelawd, a Morgannwg yn 47-5.

Roedd Chris Cooke a Graham Wagg wedi adeiladu partneriaeth o 50 erbyn i Forgannwg gyrraedd 100-5 yn y bedwaredd pelawd ar ddeg, ac roedd angen 64 o rediadau arnyn nhw oddi ar y chwe phelawd olaf.

Ond cipiodd Shahid Afridi bedwaredd wiced yn y bymthegfed pelawd, wrth i Chris Cooke dynnu’r bêl i Michael Carberry ar y ffin.

Cyrhaeddodd Graham Wagg ei hanner canred cyn iddo fe gael ei ddal gan James Vince oddi ar Mason Crane am 50 gyda Morgannwg yn 114-7, ac roedd angen 54 o rediadau arnyn nhw oddi ar bedair pelawd. Dilynodd Marchant de Lange yn fuan wedyn, wedi’i fowlio gan Reece Topley ar ôl taro pedwar oddi ar y belen gyntaf.

Roedd angen 27 ar Forgannwg erbyn y belawd olaf, wrth i Timm van der Gugten yrru’r bêl at Rossouw ar y ffin oddi ar fowlio Gareth Berg. Roedd Morgannwg yn 145-9 erbyn diwedd y gêm, a Swydd Hampshire yn fuddugol o 22 o rediadau.

Mae gan Forgannwg seibiant yfory cyn teithio i Arundel i wynebu Swydd Sussex yn eu hail gêm yn y gystadleuaeth ugain pelawd ddydd Sul.