Mae tîm criced Lloegr wedi curo De Affrica o 19 rhediad yn eu gêm olaf yn y gyfres ugain pelawd yng Nghaerdydd.
Sgoriodd Dawid Malan 78 yn ei gêm gyntaf dros ei wlad wrth i Loegr sgorio 181-8 ar ôl cael eu gwahodd i fatio. Serch hynny, fe greodd Dane Paterson argraff gyda’r bêl, wrth iddo fe gipio pedair wiced am 32 i gyfyngu Lloegr i gyfanswm llawer is nag y dylen nhw fod wedi’i gael.
Cipiodd Chris Jordan dair wiced am 31 wrth i Dde Affrica lwyddo i gyrraedd 162-7 yn unig.
Manylion
Ar ôl galw’n gywir a gwahodd Lloegr i fatio, manteisiodd bowlwyr De Affrica ar y cymylau’n gynnar yn y gêm wrth i’r bêl wyro rywfaint. Dwy belawd yn unig gymerodd hi iddyn nhw gipio’u wiced gyntaf, wrth i Jason Roy ddarganfod dwylo’r wicedwr Mangaliso Mosehle oddi ar fowlio Morne Morkel, a Lloegr yn 13-1 ar ôl dwy belawd.
Roedd Chris Morris, wrth fowlio o’r pen arall, eisoes wedi cael cyfle i gipio’i wiced wrth iddo fe ei tharo hi’n syth i’r awyr, ond methodd y wicedwr â dal ei afael arni.
Roedd oedi hir cyn diwedd y chweched pelawd wrth i Alex Hales gael ei daro yn ei goes gan Dane Paterson. Ac fe oroesodd e gyfle arall am ddaliad wrth i Andile Phehlukwayo ei gollwng hi – oddi ar Chris Morris unwaith eto.
Wrth i Alex Hales fynd o nerth i nerth, daeth Dawid Malan i ymuno yn yr hwyl yn ei gêm ryngwladol gyntaf, a tharo hanner canred oddi ar 31 o belenni, gan gynnwys saith pedwar a dau chwech erbyn iddo gyrraedd y garreg filltir, ac roedd Lloegr yn 88-1 ar ôl hanner eu pelawdau. Roedd Alex Hales a Dawid Malan wedi adeiladu partneriaeth o 105 mewn deg pelawd pan dynnodd Hales y bêl i David Miller ar y ffin oddi ar fowlio Andile Phehlukwayo, a Lloegr yn 118-2 yn y drydedd pelawd ar ddeg.
Doedd Dawid Malan ddim wedi para’n hir ar ôl yr ail wiced, wrth iddo fe yrru’r bêl i lawr corn gwddf Dane Paterson oddi ar fowlio’r troellwr coes Imran Tahir am 78, a Lloegr yn 127-3. Ei 78 yw’r cyfanswm gorau erioed gan Sais yn ei gêm ugain pelawd gyntaf, a Dawid Malan yw’r debutant cyntaf erioed i Loegr i daro hanner canred.
Roedd Lloegr wedi cyrraedd 166-3 cyn colli dwy wiced mewn dwy belen. Y cyntaf o’r ddau fatiwr allan oedd Sam Billings, oedd wedi gyrru’r bêl i’r ochr agored yn syth at AB de Villiers oddi ar Dane Paterson am 12. Sam Livingston oedd yr ail ohonyn nhw, wrth iddo fe gael ei fowlio wrth chwarae ergyd ar draws ei ffyn oddi ar ei belen gyntaf oddi ar Paterson.
Cwympodd y chweched wiced ar 179 wrth i Liam Plunkett dynnu’n syth at David Miller oddi ar fowlio Andile Phehlukwayo heb sgorio.
Un rhediad yn unig ychwanegodd Jos Buttler wrth iddo yntau gael ei ddal gan JJ Smuts oddi ar fowlio Dane Paterson am 31, a’r sgôr yn 180-7. Cwympodd yr wythfed wiced ar yr un sgôr wrth i David Willey gael ei fowlio gan yr un bowliwr am 1, a Paterson yn gorffen y batiad gyda phedair wiced am 42.
De Affrica’n cwrso yn ofer
Wrth gwrso 182 am y fuddugoliaeth, 11 pelen yn unig gymerodd hi cyn i Dde Affrica golli eu wiced gyntaf, wrth i Reeza Hendricks yrru i’r ochr agored at Liam Plunkett oddi ar fowlio Tom Curran heb sgorio, a’r sgôr yn 11-1. Dyblodd De Affrica eu sgôr cyn i Chris Morris dynnu’r bêl i Alex Hales oddi ar fowlio Chris Jordan am 8 yn y bumed pelawd.
Roedden nhw’n 59-3 wrth i JJ Smuts gael ei ddal wrth dynnu i gyfeiriad Dawid Malan oddi ar fowlio Liam Plunkett am 29. Erbyn hanner ffordd trwy eu pelawdau, roedd De Affrica’n 64-3 o’i gymharu â sgôr Lloegr o 81-1 ar yr un adeg yn eu batiad nhw.
Roedd seren De Affrica, AB de Villiers ar 35 pan ergydiodd e i gyfeiriad Alex Hales ar y ffin ar ochr y goes, a’r maeswr yn barod i’w dal hi oddi ar y troellwr coes Mason Crane, a De Affrica’n 82-4. Roedden nhw’n 86-5 o fewn dim o dro, wrth i David Miller ergydio’n wyllt i gyfeiriad y wicedwr Jos Buttler oddi ar fowlio Chris Jordan am saith.
Aeth 86-5 yn 91-6 wrth i Farhaan Behardien fachu oddi ar Chris Jordan i’r maeswr coes fain bell Sam Billings am dri yn y bedwaredd pelawd ar ddeg.
Ond brwydrodd Mangaliso Mosehle ac Andile Phehlukwayo yn ôl wrth iddyn nhw ychwanegu 54 am y seithfed wiced, cyn i Mohsele gael ei ddal gan Sam Billings oddi ar fowlio Tom Curran am 36, a De Affrica’n 145-7.
Ychwanegodd Morne Morkel ac Andile Phehlukwayo 17 am yr wythfed wiced ond doedd hynny ddim yn ddigon wrth iddyn nhw orffen 19 rhediad yn brin.