Fe fydd timau criced Lloegr a De Affrica’n herio’i gilydd yng Nghaerdydd yfory i benderfynu pwy sy’n ennill y gyfres T20 ryngwladol.
Maen nhw’n gyfartal 1-1 ar ôl i Dde Affrica ennill o dri rhediad yn unig yn Taunton ddoe.
Sgoriodd De Affrica 174-8 yn eu hugain pelawd, wrth i’r capten AB de Villiers daro 46 oddi ar 20 pelen, er i’r bowliwr cyflym Tom Curran gipio tair wiced am 33 yn ei gêm gyntaf dros Loegr.
Sgoriodd Jason Roy 67 oddi ar 45 o belenni, ac fe darodd Jonny Bairstow 47 cyn i fatwyr Lloegr gwympo un ar ôl y llall yng nghanol y batiad.
Yng ngharfan De Affrica mae cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, Wayne Parnell.
Carfan Lloegr: E Morgan (capten), J Bairstow, S Billings, J Buttler, M Crane, T Curran, L Dawson, A Hales, C Jordan, L Livingstone, D Malan, J Roy, C Overton, L Plunkett, D Willey, M Wood.
De Affrica: AB de Villiers (capten), F Behardien, R Hendricks, D Miller, M Mosehle, C Morris, D Paterson, JJ Smuts, W Parnell, A Phehlukwayo, I Tahir, D Pretorius, M Morkel.