Mae tîm criced Lloegr yn herio Pacistan yng Nghaerdydd heddiw am le yn rownd derfynol Tlws Pencampwyr yr ICC ar gae’r Oval ddydd Sul.

Lloegr fu’n fuddugol mewn 12 allan o’r 14 cyfarfod diwethaf rhwng y ddau dîm mewn gemau undydd.

Serch hynny, Pacistan oedd yn fuddugol yn eu cyfarfod diwethaf yng Nghaerdydd fis Medi diwethaf, wrth i Imad Wasim, a gafodd ei eni yn Abertawe, daro’r rhediadau buddugol i’w dîm.

Ond dydyn nhw ddim wedi chwarae yn erbyn ei gilydd yn y gystadleuaeth hon o’r blaen.

Gemau yng Nghaerdydd

Mae Lloegr yn ddi-guro mor belled, a Phacistan wedi colli un gêm yn erbyn India ar gae Edgbaston yn Birmingham.

Hon yw’r bedwaredd gêm yng Nghaerdydd yn y gystadleuaeth hon eleni – mae Lloegr eisoes wedi curo Seland Newydd, Bangladesh wedi curo Seland Newydd, a Phacistan yn drech na Sri Lanca.

Mae angen pump rhediad ar y capten, y Gwyddel Eoin Morgan i gyrraedd 5,000 o rediadau mewn gemau undydd rhyngwladol (i Loegr ac Iwerddon gyda’i gilydd) – dim ond Ian Bell a Paul Collingwood sydd o’i flaen e ar restr prif sgorwyr Lloegr.

Sgorfwrdd