Mae Sri Lanca yn herio Pacistan yn Nhlws Pencampwyr yr ICC yng Nghaerdydd heddiw, gyda’r enillydd yn dychwelyd i Gymru ddydd Mercher i wynebu Lloegr yn y rownd gyn-derfynol.

Yn nhîm Pacistan mae Imad Wasim, a gafodd ei eni yn Abertawe tra bod ei rieni’n astudio yno yn y brifysgol. Y tro diwethaf iddo fe chwarae yng Nghaerdydd, fis Medi’r llynedd, cipiodd y troellwr llaw chwith un wiced am 33 yn ei ddeg pelawd, ac fe darodd e’r rhediadau buddugol wrth i Bacistan ennill o bedair wiced.

Ond dydy’r naill dîm na’r llall ddim wedi cael cystadleuaeth lwyddiannus iawn y tro hwn, gyda Sri Lanca yn colli yn erbyn De Affrica a Phacistan yn cael eu trechu gan eu cymdogion India.

Serch hynny, fe darodd y ddau dîm yn ôl, gyda Phacistan yn curo De Affrica a Sri Lanca yn maeddu India.

Bowlio yw prif gryfder Pacistan, ac mae hynny wedi bod yn allweddol yn y gystadleuaeth hon wrth iddyn nhw gyfyngu De Affrica i 219, tra bod batwyr Sri Lanca wedi cwrs 322 i guro India.

Sri Lanca: A Mathews (capten), N Dickwella, K Mendis, D de Silva, D Gunathilaka, A Gunaratne, D Chandimal, L Malinga, S Lakmal, N Kulasekara, N Pradeep, T Perera, L Sandakan, S Prasanna.

Pacistan: Sarfraz Ahmed (capten), Fakhar Zaman, Ahmed Shehzad, Azhar Ali, Babar Azam, Faheem Ashraf, Hasan Ali, Imad Wasim, Mohammad Amir, Mohammad Hafeez, Shadab Khan, Shoaib Malik, Haris Sohail, Junaid Khan, Rumman Raees.