Fe fyddai buddugoliaeth i Seland Newydd neu Bangladesh yng Nghaerdydd heddiw yn cadw eu gobeithion o gyrraedd rownd gyn-derfynol Tlws Pencampwyr yr ICC yn fyw.

Bydd Seland Newydd yn gobeithio taro’n ôl ar ôl colli i Loegr o 87 o rediadau ar gae’r Swalec ddydd Mawrth, ac fe ddaeth y glaw i achub Bangladesh yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Awstralia.

Mae gan y ddau dîm un pwynt yr un ar ôl dwy gêm, ac fe fydd rhaid iddyn nhw ddibynnu ar ganlyniadau gemau eraill i aros yn y gystadleuaeth. Byddai gan y tîm buddugol driphwynt, a byddai angen iddyn nhw obeithio wedyn nad yw Awstralia’n curo Lloegr.

Mae’n debygol y bydd y tywydd yn chwarae rhan flaenllaw yn y gêm heddiw, ac fe ddaeth y glaw yn ystod y bore, sy’n golygu nad ydyn nhw wedi dechrau’r gêm yn brydlon.

Carfan Seland Newydd: K Williamson (capten), C Anderson, T Boult, N Broom, C de Grandhomme, M Guptill, T Latham, M McClenaghan, A Milne, J Neesham, J Patel, L Ronchi, M Santner, T Southee, R Taylor.

Carfan Bangladesh: Mashrafe Mortaza (capten), Imrul Kayes, Mahmudullah, Mehedi Hasan Miraj, Mosaddek Hossain, Mushfiqur Rahim (wk), Mustafizur Rahman, Rubel Hossain, Sanzamul Islam, Sabbir Rahman, Shafiul Islam, Shakib Al Hasan, Soumya Sarkar, Tamim Iqbal, Taskin Ahmed.

Sgorfwrdd